Siarter Iaith

dysgu cymraeg

sesiynau dysgu Cymraeg i rieni

Mae'r ysgol wedi trefnu sesiynau dysgu Cymraeg yn y dosbarth i rieni yn ystod tymor y Gwanwyn a thymor yr Haf. Mae'r sesiynau yn digwydd yn fisol ble mae cyfle iddynt ddod i'r dosbarth i ddysgu gyda'r plant. Yn y sesiwn gyntaf bum yn dysgu sut i gyfarch yn y Gymraeg, canu hwiangerddi syml, trafod y tywydd a dilyn patrymau brawddegau syml wrth rannu llefrith yn y siop lefrith. Roedd y rhieni a'r plant wedi mwynhau yn arw a phawb yn edrych ymlaen at yr ail sesiwn.

Dydd Miwsig Cymru

Dydd Miwsig Cymru

Fel rhan o ddathliadau yn arwain at Ddydd Miwsig Cymru, bu Welsh Whisperer yn yr ysgol yn cynnal gweithdy cyfansoddi gyda'r plant. Yn ogystal, gwahoddwyd Mr T a Dafydd Eurgain o wasanaeth Cerdd ysgolion Gwynedd a Mon i ddysgu'r plant sut i fwynhau defnyddio offerynnau cerdd amrywiol. Ar ddydd Miwsig Cymru, bum yn gwrando ar amrywiaeth o ganeuon Cymraeg a chawsom ddisgo yn y prynhawn. Llongyfarchiadau i rieni Efan Gwern am ennill y gystadleuaeth Pwy 'di Pwy ac adnabod yr enwogion Cymreig i gyd!

Dydd Gwyl Dewi

Dydd Gwyl Dewi

Gwahoddwyd Merched y Wawr a chriw Gweill Gobaith i ymuno gyda ni i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. Bu iddynt fwynhau paned a chacen gri wrth wrando ar y plant yn canu amrywiaeth o ganeuon i gofio am Dewi Sant, a chaneuon i ddiolch am dymor y Gwanwyn.

Diwrnod y Llyfr - hogan yn darllen ei llyfr ar ei ben

Diwrnod y Llyfr

Syniad y Cyngor Ysgol eleni oedd i bawb ddod i'r ysgol mewn byjamas. Bum yn mwynhau straeon amrywiol drwy’r dydd ac mi gafodd y plant ieuengaf stori gan blant blwyddyn 2 a 3. Bu pawb yn brysur yn y dasg dysgu cyfunol hefyd yn mwynhau darllen adref, a darllen mewn lle gwahanol i’r arfer. Mae darllen yn hwyl a sbri!.

Cwpan y Byd

Cwpan y Byd

Un o ganlyniadau arbennig presenoldeb y Wal Goch yn Qatar ydy'r cynnydd mewn ymwybyddiaeth o'r iaith Gymraeg. Bum yn dilyn thema ‘Cwpan y Byd’ yn yr ysgol ac roeddem wrth ein boddau yn gwylio’r gemau ac yn cefnogi. Cafodd pawb gyfle i greu het fwced gan ei haddurno gyda lluniau o bethau sy’n cynrychioli Cymru.

Jambori

Jambori

Ym mis Tachwedd cawsom fore llawn hwyl yn ymuno gyda holl ysgolion Cymru yn Jambori yr Urdd i ddymuno pob lwc i dîm pêl-droed Cymru yn Qatar. Braint oedd cael cyd-ganu gyda’r arwr ei hun, Dafydd Iwan.

Diwrnod Shwmai, Su’mae

Diolch i deuluoedd yr ysgol am yr ymateb arbennig wrth ein helpu i greu fidio i hyrwyddo diwrnod Shwmae Su’mae ym mis Hydref. Cofiwch gyfarch yn Gymraeg…rhowch gynnig arni! Cliciwch ar y ddolen hon i wylio’r fidio.

 

Diolch i Dewi Pws am bnawn llawn hwyl

'Diwrnod Shwmae Su'mae!'
󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿Diolch i Dewi Pws am bnawn llawn hwyl yn dathlu ‘Diwrnod Shwmae Su’mae’. Pawb wedi mwynhau!󠁧󠁢

Ymgais Ysgol Morfa nefyn o dorri Record Byd Yr Urdd!

Ymgais Ysgol Morfa nefyn
Ymgais Ysgol Morfa nefyn o dorri Record Byd Yr Urdd!

Dydd Miwsig Cymru

Dydd Miwsig Cymru
Diwrnod llawn dawnsio, canu a roc a rol! Dydd Miwsig Cymru gwerth chweil! Bu pawb yn creu 'Llyfr nod' gan nodi eu hoff ganwr/gantores, hoff gân a ble maent yn gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg.

Cyngerdd Nadolig

Dathlu Dydd Gwyl Dewi
Roedd pawb werth eu gweld yn eu dilladau Cymreig heddiw i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. Pleser mawr oedd croesawu Mercher y Wawr i ymuno yn y dathliadau ac i wrando ar berfformiadau y plant.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyngerdd Nadolig

Pared Dewi Sant
Cawsom fore difyr iawn yn y pared Dewi Sant ym Mhwllheli a’r plent wedi mwynhau canu yng nghwmni Dewi Pws yn arw. Diolch i bawb am ymuno!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyngerdd Nadolig

Dydd Miwsig Cymru
Cawsom ddiwrnod arbennig yn dathlu Dydd Miwsig Cymru heddiw. Roedd pawb wrth eu bodd yn canu carioci i gân newydd Seren a Sbarc ac yn gwrando ar eu rhestr chwarae wrth fwyta eu cinio. Ar ddiwedd y dydd bu pawb yn dawnsio i amrywiaeth o ganeuon cymraeg; y ffefryn eleni oedd ‘Rhedeg i Baris’ gan Candelas. Gosodwyd gwis i’r rhieni a’r disgyblion am restr chwarae Seren a Sbarc – dyma lun o ennillwyr y gystadleuaeth gyda’r wobr arbennig.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyngerdd Nadolig

Santes Dwynwen
Dydd Santes Dwynwen hapus i chi gyd. Cawsom ddiwrnod difyr yn ymwneud ag heriau amrywiol yn yr ardaloedd dysgu i ddathlu. Bum yn cynllunio a chreu crefftau calonnau ac yn bwyta bisgedi blasus gan gwmni busnes LLOND BOL. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyngerdd Nadolig

Dydd miwsig Cymru
Cawsom ddiwrnod arbennig yn dathlu Dydd Miwsig Cymru. Roedd pawb wrth eu bodd yn canu carioci i gân newydd Seren a Sbarc ac yn gwrando ar eu rhestr chwarae wrth fwyta eu cinio. Ar ddiwedd y dydd bu pawb yn dawnsio i amrywiaeth o ganeuon cymraeg; y ffefryn eleni oedd ‘Rhedeg i Baris’ gan Candelas. Pob lwc i’r rhieni a’r disgyblion yn y cwis am restr chwarae Seren a Sbarc yn ystod y penwythnos - pwy fydd yn ennill y wobr arbennig dybed?

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Shwmai, Su’mae

Diwrnod Shwmai, Su’mae

Bu’r Cyngor ysgol yn cyfarch rhieni a phlant yn y giat bore heddiw i ddathlu diwrnod Shwmai Su’mae. Dyma lun o gystadleuaeth rhieni ysgol Morfa gan y Cyngor Ysgol. Ydych chi’n gwybod pwy ‘di pwy o’r enwogion Cymraeg? Llongyfarchiadau i bawb a lwyddodd ond yn arbennig i ennillydd y gystadleuaeth; Elin Williams (mam Nel Lois). Derbyniodd CD gyda 40 o ganeuon adnabyddus Cymreig yn wobr.

 

plant

Dydd miwsig Cymru

Diolch i Owain Llyr am ddod a’i offer DJ i’r ysgol i ni gael dathlu #DyddmiwsigCymru. Cawsom ddisgo arbennig yn gwrando ar amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg! Syniad gwych unwaith eto gan y Cyngor Ysgol. Cliciwch yma i weld mwy o’r lluniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Eisteddfod

Llongyfarchiadau i’r tri disgybl yma yn yr Eisteddfod Cylch a phob lwc iddynt yn yr Eisteddfod Sir ym Mangor.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Cyngerdd Gŵyl Ddewi

Gwisgodd y plant ddillad Cymreig neu lliwiau’r faner i ddod i’r ysgol ar ddydd Gŵyl Dewi. Bum yn dysgu am Dewi Sant gan ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau. Cynhaliwyd ein cyngerdd Gŵyl Ddewi yn y Ganolfan a bu’r plant yn canu, llefaru a dweud jôcs wrth y gynulleidfa. Ymunodd rhieni sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol gyda’r plant ar y llwyfan i ganu hwiangerddi. Llongyfarchiadau mawr iddynt!



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Gwrandewch ar BBC Radio Cymru

Beth am wrando ar BBC Radio Cymru 2 wrth fwyta brecwast a pharatoi’r plant ar gyfer yr ysgol? Mae cymysgedd o gerddoriaeth, sgwrsio ac adloniant bob bore. Gallwch wrando ar eich ffôn symudol a thabled gan ddefnyddio app radio iPlayer y BBC neu drwy wefan Radio Cymru. O Ddydd Llun i Ddydd Gwener am hanner awr wedi chwech, bore Sadwrn am 7 a bore Sul am 8.

http://www.bbc.co.uk/programmes/b09plwg7



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Dathliadau a Traddodiadau’ Flwyddyn Newydd

Bu dosbarth blwyddyn Meithrin, Derbyn ac 1 yn dysgu am ddathliadau’r Flwyddyn Newydd. Dysgom am draddodiadau traddodiadol yr hen galan yng Nghymru ac am draddodiadau difyr iawn sydd yng Ngwledydd eraill y Byd. Cliciwch yma i weld lluniau o’r gweithgareddau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Rhieni yn dysgu cymraeg - Sesiwn 2

Gwahoddwyd rhieni sydd yn dysgu Cymraeg i’r ysgol eto ym mis Ionawr. Yn ystod y sesiwn bum yn dysgu sut i drafod y tywydd yn syml a sut i gyfri gan adnabod rhifau yn Gymraeg. Cafodd bob un o’r rhieni gyfle i weithio yn y siop llefrith gan ddysgu patrymau brawddeg newydd. Diolch i chi am ymuno! Rydym yn edrych ymlaen at sesiwn mis Chwefror yn barod.

 

plant

Dysgu Cymraeg

Gwahoddir rhieni sydd yn awyddus i ddysgu Cymraeg i’r ysgol. Yn ystod y sesiwn gyntaf y tymor hwn, ymunodd tad Isobel gyda ni yn y dosbarth gan gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol a chanu hwiangerddi. Dysgodd llawer o eiriau newydd gan gynnwys enwau adar. Bu’n rhannu llefrith i’r plant gan weithio yn y ‘siop llefrith’. Diolch iddo am ymuno gyda ni ac am fod mor awyddus.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Apiau Cymraeg

Apiau Cymraeg

Mae llawer o apiau Cymraeg ar gael i gefnogi addysg eich plentyn.

Mae rhai ohonynt yn addas iawn i'ch helpu i ddysgu Cymraeg.

Cliciwch yma i ddewis apiau ar wefan Llywodraeth Cymru: http://cymraeg.llyw.cymru/apps?tab=apps&lang=cy



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Dathlu llwyddiant lleol

Nos Wener, 14eg o Orffennaf, 2017 trefnwyd noson arbennig i longyfarch Mared Llywelyn Williams, cyn-ddisgybl ysgol Morfa ar ei llwyddiant yn ennill y fedal ddrama yn Eisteddfod yr Urdd, Pen-y-Bont ar Ogwr eleni. Gwahoddwyd Nia W Williams, pennaeth yr ysgol i roi gair am Mared am ei chyfnod yn ysgol Morfa, a bu i blant Bl 2 a 3 ganu caneuon traddodiadol y môr ar y noson. Bu i Mared, ar gais y Cyngor Ysgol, ddod i’r ysgol y Dydd Llun canlynol i siarad gyda’r plant am ei chyfnod yn yr ysgol, ei hanes yn ennill y fedal ddrama yn yr Eisteddfod a chyflwyno sialens ddarllen yr haf gan ei bod yn gweithio yn y llyfrgell.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Sialens ddarllen yr Haf

Yn dilyn sgwrs gan Mared Llywelyn yn yr ysgol i annog y disbyglion i gymryd rhan yn y sialens ddarllen, cerddodd holl blant yr ysgol i’r Llyfrgell yn Nefyn i ddewis 3 llyfr ar gyfer y gwyliau. Enw’r sialens eleni yw ‘Asiantaeth anifeiliaid’, cyffrous iawn! Cofiwch ymweld â’r Llyfrgell ddwy waith eto yn ystod y gwyliau Haf i gwblhau’r sialens a derbyn medal. Cliciwch yma i weld lluniau ohonom yn y Llyfrgell.




------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

10 Rheswm Da dros ddysgu`r Gymraeg!
Defnyddiwch y linc isod i ddysgu mwy am yr iaith Gymraeg a'i fanteision ar wefan Canolfannau iaith Gwynedd:
http://canolfannau-iaith-gwynedd.cymru/cefndir.html



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Baner Cymru

Ar gais y Cyngor ysgol, daeth Dewi Pws i'r ysgol i godi ein baner Cymru newydd sydd ar dîr yr ysgol. Ymunodd y rhieni ar ddiwedd y dydd wrth ei wylio yn torri y ruban a chodi y faner yn uchel. Canodd bawb Hen Wlad fy Nhadau. Cliciwch yma i weld lluniau a fidio.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Dydd Gwyl Dewi

Bum yn dysgu am Dewi Sant yn yr ysgol yr wythnos hon. Gwisgodd y plant wisg Cymreig neu ddillad o liwiau Cymreig i ddod i'r ysgol ac ymwneud a llawer o weithgareddau difyr. Ymunodd Dewi Pws gyda'r plant ar y llwyfan yn y cyngerdd Gwyl Ddewi i ganu llawer o ganeuon traddodiadol. Roedd y blant wrth eu bodd yn ei gwmni. Cliciwch yma i weld y lluniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Canu gyda Dewi Pws

Daeth Dewi Pws i'r ysgol i ganu can pared Dewi Sant gyda'r disgyblion. Bydd y pared yn digwydd ym Mhwllheli ar y 25ain o Chwefror. Dewch yn llu! Cliciwch yma i weld lluniau ac i weld fidio o'r plant yn canu'r gan.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Owen Edwards

Daeth John Dilwyn Jones o’r archifdy yng Nghaernarfon i drafod celfi cegin Oes Owen Edwards. Dysgodd y plant am draddodiad golchi dillad a phwysigrwydd tân i goginio a sychu dillad. Cliciwch yma i weld mwy o luniau



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Santes Dwynwen

Bum yn dathlu diwrnod Santes Dwynwen yn yr ysgol ar y 25ain o Ionawr. Bu’r plant yn ymwneud â llawer o weithgareddau difyr gan gynnwys disgo Santes Dwynwen a gêm ‘Sion a Sian’ i gloi’r dydd. Llongyfarchiadau i Cian ac Ania o flwyddyn 3 am ennill y gêm. Gwisgodd y plant ddillad parti i ddod i’r ysgol gan dalu £1 yr un. Penderfynodd y Cyngor ysgol roi’r arian a gasglwyd tuag at elused CHD.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Siarter iaith

Derbyniodd y Cyngor Ysgol dystysgrif 'gwobr aur' gan siarter iaith Gwynedd am eu hymroddiad o hybu'r Gymraeg yn yr ysgol, gyda rhieni a'r gymuned. Llongyfarchiadau!