Mentergarwch - Llond Bol

Llond Bol

LLOND BOL yw cwmni busnes sydd wedi ei sefydlu gan ddisgyblion blwyddyn 2 a 3 fel rhan o brosiect ' Ysgolion creadigol 2017-18' i ddtablygu eu sgiliau mentergarwch. Cyn sefydlu'r busnes, bu iddynt ymwneud â llawer o weithgareddau ymchwilio gan gynnwys cyfweld perchnogion siop&garej Morfa i ddysgu mwy am sut i ddatblygu busnes. Aethant ati i ddysgu sgiliau Technoleg Gwybodaeth newydd er mwyn creu a ffilmio eu hysbyseb. Cliciwch yma i weld yr hysbyseb (linc yma'n fuan)


Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

plant

Coginio ar gyfer y Ffair Nadolig
Diolch i LLOND BOL am fod yn brysur yn paratoi bisgedi blasus i’w gwerthu yn y Ffair Nadolig.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Addurniadau Nadolig
Mae cwmni busnes LLOND BOL wedi cael diwrnod prysur yn creu addurn bwrdd gyda phlanhigion bythwyrdd. NADOLIG LLAWEN!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Plant mewn angen
Diolch i bawb am gefnogi a chyfrannu tuag at elusen Plant mewn Angen heddiw. Casglwyd £77.05. Roedd pawb wedi gwisgo i fyny er mwyn cadw’n heini gyda Joe Wicks a Pudsey. Diolch i’r Cyngor Ysgol am eu syniadau. Bu cwmni busnes LLOND BOL yn brysur yn creu byrbryd melys iachus ar gyfer eu gwerthu i’r plant.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

plant

Criw Mentrus
Llongyfarchiadau mawr i’r 4 disgybl a fu’n cynrychioli cwmni busnes LLOND BOL ysgol Morfa yng nghystadleuaeth y criw mentrus. Roedd derbyn y gwahoddiad i’r rownd derfynol yn fraint ac yn brofiad anhygoel iddynt! Roeddent wrth eu boddau yn cael cyflwyno eu cynnyrch i bawb, gan gynnwys jam mefus, bara brith a thaffi triog. Llongyfarchiadau mawr iawn i Nico Jones am gael ei ddewis fel yr ‘Unigolyn eithriadol’. Gwych!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Cacennau mwyar duon
Cliciwch yma i weld lluniau o gwmni busnes LLOND BOL yn cael ‘helpars’ bach i gasglu mwyar duon cyn mynd ati i goginio cacennau a’u gwerthu i’r plant a’r rhieni! Diwrnod prysur a difyr!




------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Taffi triog
Diolch i Mr Gwilym Griffiths (tad Mrs Pari) am ddod i’r ysgol i rannu ei rysait taffi triog blasus gyda disgyblion blwyddyn 2 a 3. Gwerthwyd y taffi triog ar stondin LLOND BOL yn Ffair Nadolig yr ysgol a gwnaethpwyd elw llwyddiannus.




------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Llyfr ryseitiau
Penderfynodd LLOND BOL gasglu ryseitiau amrywiol gan deuluoedd yr ysgol. Rhoddwyd y ryseitiau gyda’i gilydd i greu llyfr, gan addurno’r llyfr yn yr ardal Gelf a Chrefft. Gwerthwyr y llyfr i aelodau o’r gymuned yn y Ffair Nadolig er mwyn gwneud elw. Dyma lun o’r disgyblion yn cyflwyno y llyfr arbennig cyn agor y Ffair.




------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Bisgedi Santes Dwynwen
Diolch i gwmni LLOND BOL am goginio bisgedi siap calon blasus i ddisgyblion yr ysgol heddiw. Maent wedi bod yn brysur yn dilyn y rysait, pwyso’r cynhwysion, coginio ac addurno. Pawb wedi eu mwynhau yn arw! Diwrnod Santes Dwynwen hapus i chi gyd! Cliciwch yma i weld lluniau o weithgareddau diwrnod Santes Dwynwen.




plant

Cynnyrch cyntaf – cacennau cri

Bu cwmni busnes LLOND BOL yn creu cacennau cri yng ngwmni Sian Beca. Mae gan Sian Beca fusnes ei hun sydd yn gwneud tê prynhawn blasus felly roedd y disgyblion wrth eu bodd yn dysgu am ei ryseitiau llwyddiannus. Gwerthwyd eu cynnyrch cyntaf i rieni yr ysgol yn ystod lansiad cwmni LLOND BOL.