Ysgol

Diolch i chi am gymryd yr amser i ddarganfod a dysgu am ein hysgol. Gobeithiwn y bydd y wefan hwn yn eich cynorthwyo i roi blas i chi o‘r Ysgol a’r cyfleoedd yr ydym yn eu darparu ar gyfer eich plentyn.


Ysgol ar gyfer y Babanod a phlant hyd at Flwyddyn 3 yw Ysgol Morfa (plant 3-8 oed). Gobeithiwn y bydd y plant yn treulio blynyddoedd cyntaf eu haddysg mewn awyrgylch hapus a chartrefol gan ddatblygu’n addysgol a chymdeithasol.


Mae ein hadeilad ysgol a adeiladwyd yn 1982 yn ymgorffori un llawr sy’n abl iawn ar gyfer plant ag anawsterau corfforol. Mae’r adeilad modern hwn wedi ei addasu ar gyfer plant y Cyfnod Sylfaen. Rydym yn ffodus fod yr ysgol yn eistedd mewn tir sy’n darparu digon o gyfleoedd ar gyfer dysgu a chwaraeon awyr agored.

Ymdrechwn yn galed i wneud yn siwr eu bod yn cael amrywiaeth o brofiadau diddorol a pherthnasol mewn awyrgylch ddiogel a chyfeillgar er mwyn iddynt dyfu yn bersonau annibynnol a chyfrifol. Ymdrechwn i gynnal amgylchedd hapus sy’n meithrin plant bywiog, brwdfrydig a llawn diddordeb.

 

Mae’n bwysig ein bod ni fel athrawon yn cydweithio yn agos gyda chwi rieni er mwyn sicrhau yr addysg orau i’r plant. Mae yma yn Ysgol Morfa bolisi “drws agored” bob amser ac y mae croeso i chi wneud trefniadau i ymweld â’r ysgol.

 

Edrychwn ymlaen i gyd-weithio â chi er mwyn gwneud cyfnod eich plentyn yn Ysgol Morfa yn un hapus, diddorol a llwyddiannus.