Cyngor Ysgol


Dyma’r Cyngor Ysgol eleni. Mae’r cyngor ysgol yn bodoli i sicrhau bod y disgyblion yn gallu lleisio pryderon neu syniadau’n swyddogol. Mae’r Cyngor yn cynnwys plant hynaf yr ysgol-blwyddyn 3. Mae cynghorwyr ysgol yn cyfarfod o leiaf unwaith y tymor i drafod materion pwysig iddynt hwy eu hunain a’u cymheriaid. Mae gwelliannau’r gorffennol a wnaed yn dilyn ymyriad y cyngor ysgol yn cynnwys cyflwyno siop ffrwythau, safle beiciau, rhwyd i’r pyst peldroed a thanc pysgod sydd yng nghyntedd yr ysgol.

 

Cyngor Ysgol 2024 - 2025

Cyngor Ysgol 2024 - 2025

 

 

 

Diwrnod Shwmai Su'mae

Gwaith cyntaf y Cyngor Ysgol eleni oedd meddwl am weithgareddau difyr i hyrwyddo diwrnod Shwmai, Su'mae. Roedd ganddynt syniadau arbennig oedd yn cynnwys gwisgo dillad lliwiau Cymru a chreu fidio gan blant a rhieni yr ysgol yn annog pawb drwy Gymru i gyfarch yn Gymraeg. Dyma ddolen i wylio’r fidio: Cliciwch Yma Syniad arall oedd dysgu arwyddo y gan ‘Dw i’n Gymro, dw i’n Gymraes’ sef un o hoff ganeuon y plant. Gwrandewch arnynt yma: Cliciwch Yma Diolch i chi Gyngor Ysgol am syniadau mor arbennig!

Diwrnod y Llyfr - hogan yn darllen ei llyfr ar ei ben

Diwrnod y Llyfr

Syniad y Cyngor Ysgol eleni oedd i bawb ddod i'r ysgol mewn byjamas. Bum yn mwynhau straeon amrywiol drwy’r dydd ac mi gafodd y plant ieuengaf stori gan blant blwyddyn 2 a 3. Bu pawb yn brysur yn y dasg dysgu cyfunol hefyd yn mwynhau darllen adref, a darllen mewn lle gwahanol i’r arfer. Mae darllen yn hwyl a sbri!.

Diwrnod Plant mewn angen

Cawsom ddiwrnod llawn hwyl yn casglu arian at elusen Plant mewn Angen. Diolch i’r Cyngor ysgol am eu syniadau difyr. Bu pawb wrthi’n brysur drwy’r bore yn coginio bisgedi a chacennau ar gyfer stondin y Cyngor Ysgol. Casglwyd £63.10.

 

Cyngor Ysgol 2021 - 2022

Cyngor Ysgol

Fideo Cyngor Ysgol

Fideo Cyngor Ysgol


Cyngor Ysgol 2019 - 2020

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Dathlu Dydd miwsig Cymru

Dydd Miwsig Cymru


Wel am ddiwrnod difyr yn dathlu dydd miwsig Cymru! Daeth pawb ag offerynnau amrywiol i’r ysgol i ymuno wrth wrando ar gerddoriaeth Cymraeg ac roedd y disgo a’r ‘Carioci Cŵl’ yn y prynhawn yn llawn hwyl.

Welsh Music Day

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Diwrnod Santes Dwynwen


DYDD SANTES DWYNWEN HAPUS i bawb. Pawb wedi bod yn brysur yn dysgu stori Dwynwen drwy ymwneud â gweithgareddau llythrennedd, rhifedd, cymhwysedd digidol a chelf.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Gwobr Aur Siarter iaith 2019


Rydym wedi derbyn gwobr aur y siarter iaith eto eleni. Da iawn pawb! Dyma ddau aelod o’r Cyngor Ysgol gyda’r tystysgrif.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Plant mewn angen
Diolch i bawb am gefnogi a chyfrannu tuag at elusen Plant mewn Angen heddiw. Casglwyd £77.05. Roedd pawb wedi gwisgo i fyny er mwyn cadw’n heini gyda Joe Wicks a Pudsey. Diolch i’r Cyngor Ysgol am eu syniadau. Bu cwmni busnes LLOND BOL yn brysur yn creu byrbryd melys iachus ar gyfer eu gwerthu i’r plant.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Cawl llysiau
Penderfynodd cwmni busnes Llond bol blwyddyn 2 a 3 wneud cawl llysiau blasus i’r rhieni gan ddefnyddio y llysiau yr oeddent wedi eu cyfrannu i addurno y capel ar gyfer y gwasanaeth Diolchgarwch. Blasus iawn! Rhoddwyd mwyafrif y llysiau yn rhodd i gartref Plas Madryn.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Elusen Ambiwlans Awyr
Penderfynodd y Cyngor ysgol gyfrannu casgliad y gwasaneth Diolchgarwch eleni tuag at elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Dyma lun ohonynt yn cyflwyno siec o £128.25 i Eryl sydd yn gweithio i’r elusen.


------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Diwrnod Shwmae Su’mae!
Cliciwch yma i weld fidio y plant a’r rhieni. Diolch i rieni Ysgol Morfa am gymryd rhan a chyfarch yn Gymraeg. Da iawn pawb!


 

Cyngor Ysgol 2018 - 2019

 

chairperson
secretary
secretary
Cadeiryddion
Trysorydd
Ysgrifennyddes

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyngerdd Nadolig

Diwrnod trwynau coch
Casglwyd £68.44 heddiw drwy dalu £1 am wisgo gwisgoedd gwirion. Cawsom sesiwn dweud jôcs a bu pawb yn brysur yn creu sbectols boncyrs. Diolch o galon i nain Isobel am y cacennau trwyn coch blasus. Pawb wedi mwynhau yn arw!


------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyngerdd Nadolig

Dydd miwsig Cymru
Cawsom ddiwrnod arbennig yn dathlu Dydd Miwsig Cymru. Roedd pawb wrth eu bodd yn canu carioci i gân newydd Seren a Sbarc ac yn gwrando ar eu rhestr chwarae wrth fwyta eu cinio. Ar ddiwedd y dydd bu pawb yn dawnsio i amrywiaeth o ganeuon cymraeg; y ffefryn eleni oedd ‘Rhedeg i Baris’ gan Candelas. Pob lwc i’r rhieni a’r disgyblion yn y cwis am restr chwarae Seren a Sbarc yn ystod y penwythnos - pwy fydd yn ennill y wobr arbennig dybed?

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Casglu arian at dementia

Plant mewn Angen
Daeth y disgyblion i’r ysgol wedi gwisgo mewn dillad Pudsey, dillad smotiog neu ddillad melyn i gasglu arian tuag at Blant mewn Angen. Casglwyd £75 i gyd, diolch pawb! Diolch arbennig i’r Cyngor ysgol am drefnu.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Shwmai, Su’mae

Diwrnod Shwmai, Su’mae

Bu’r Cyngor ysgol yn cyfarch rhieni a phlant yn y giat bore heddiw i ddathlu diwrnod Shwmai Su’mae. Dyma lun o gystadleuaeth rhieni ysgol Morfa gan y Cyngor Ysgol. Ydych chi’n gwybod pwy ‘di pwy o’r enwogion Cymraeg? Llongyfarchiadau i bawb a lwyddodd ond yn arbennig i ennillydd y gystadleuaeth; Elin Williams (mam Nel Lois). Derbyniodd CD gyda 40 o ganeuon adnabyddus Cymreig yn wobr.

 

plant

Dydd miwsig Cymru

Diolch i Owain Llyr am ddod a’i offer DJ i’r ysgol i ni gael dathlu #DyddmiwsigCymru. Cawsom ddisgo arbennig yn gwrando ar amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg! Syniad gwych unwaith eto gan y Cyngor Ysgol. Cliciwch yma i weld mwy o’r lluniau.



-

 

plant

Ymweld a’r Bad Achub

Bu plant blynyddoedd Derbyn, 1, 2 a 3 ym Mhorthdinllaen yr wythnos hon yn ymweld â’r Bad Achub. Bwriad yr ymweliad oedd i gyflwyno siec o £50 yr oedd y Cyngor Ysgol wedi ei gasglu ar gyfer y Bad Achub yn ystod y tymor. Yn y prynhawn, bum yn coginio ‘marshmallows’ ar y traeth gyda Laura a Robert o’r Ymddiriedolaeth. Cawsom ein dal yn y storm ac roedd pawb yn wlyb socian yn cyrraedd nôl i’r ysgol. Diwrnod llawn hwyl a sbri! Cliciwch yma i weld y lluniau.




------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Casglu arian tuag at elusen ‘Epilepsy’

Ar gais y Cyngor Ysgol, daeth Catrin Davies o ysgol Cymerau i siarad gyda plant yr ysgol am ei phrofiad yn torri ei gwallt hir (40cm) ar raglen Heno, S4C. Bydd gwallt Catrin yn cael ei ddefnyddio i greu wig ar gyfer cronfa ‘Little Princess trust’. Yn ogystal, roedd Catrin yn codi arian tuag at elusen ‘Epilepsy’. Er mwyn helpu Catrin i godi mwy o arian, penderfynodd y Cyngor Ysgol drefnu diwrnod ‘gwalltiau gwirion’. Daeth yr holl staff a disgyblion i’r ysgol wedi lliwio eu gwalltiau, neu yn gwisgo wig doniol. Codwyd swm anhygoel o £61.03.




------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Casglu arian at y Bad Achub
Penderfynodd y Cyngor Ysgol gefnogi y diwrnod casglu arian at y Bad Achub ym mis Mai. Talodd holl blant yr ysgol £1 er mwyn cael dod i'r ysgol mewn dillad yr Haf. Casglwyd £50.25. Gwych! Diolch i'r rhieni a staff yr ysgol am gefnogi.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Wythnos Gerdded i'r ysgol Mai 2017

Penderfynodd y Cyngor Ysgol gefnogi wythnos gerdded i'r ysgol unwaith eto gan annog plant yr ysgol a'r rhieni i gerdded i'r ysgol bob bore a cherdded adref o'r ysgol bob prynhawn. Cliciwch yma i weld lluniau o'r plant oedd wedi ymdrechu gyda'u tystysgrifau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Trwynau Coch

Trefnodd y Cyngor ysgol ddiwrnod 'doniol' iawn Dydd Gwener y 24ain o Fawrth, 2017 sef diwrnod 'Trwynau Coch' (Comic relief). Bu i'r plant a'r staff wisgo i fyny yn ddoniol iawn! Gwisgodd rhai fel clown, wigiau doniol a rhai o'r genod yn gwisgo I fyny fel hogiau a'r hogiau yn gwisgo i fyny fel genod! Cawsom brynhawn difyr yn dweud jocs ac adrodd straeon digri! Talodd Ms Williams arian i'r plant fod yn dawel am 2 funud!!! Yna, am 3 o'r gloch gwerthodd y plant gacennau trwynau coch wrth giat yr ysgol. Codwyd swm o £111.50 at yr achos. Diolch i bawb am gyfrannu i godi arian at achos da! Click here to see photos.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Santes Dwynwen

Bum yn dathlu diwrnod Santes Dwynwen yn yr ysgol ar y 25ain o Ionawr. Bu’r plant yn ymwneud â llawer o weithgareddau difyr gan gynnwys disgo Santes Dwynwen a gêm ‘Sion a Sian’ i gloi’r dydd. Llongyfarchiadau i Cian ac Ania o flwyddyn 3 am ennill y gêm. Gwisgodd y plant ddillad parti i ddod i’r ysgol gan dalu £1 yr un. Penderfynodd y Cyngor ysgol roi’r arian a gasglwyd tuag at elused CHD.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Siarter iaith

Derbyniodd y Cyngor Ysgol dystysgrif 'gwobr aur' gan siarter iaith Gwynedd am eu hymroddiad o hybu'r Gymraeg yn yr ysgol, gyda rhieni a'r gymuned. Llongyfarchiadau!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Baner Cymru

Ar gais y Cyngor ysgol, daeth Dewi Pws i'r ysgol i godi ein baner Cymru newydd sydd ar dîr yr ysgol. Ymunodd y rhieni ar ddiwedd y dydd wrth ei wylio yn torri y ruban a chodi y faner yn uchel. Canodd bawb Hen Wlad fy Nhadau. Cliciwch yma i weld lluniau a fidio.



Patrobas

Patrobas

Cawsom y pleser o groesawu grwp Patrobas i’r ysgol heddiw i ganu amrywiaeth o ganeuon Cymraeg gan gynnwys ‘Fflat Huw Puw’. Ymunodd y rhieni yn yr hwyl. Gan fod Carwyn sydd yn chwarae’r drymiau i’r grwp yn gyn-ddisgybl yn yr Ysgol roedd y Cyngor Ysgol wedi ei ebostio yn gofyn iddo ddod i’r ysgol. Yn ystod y prynhawn bum yn edrych ar luniau a fidios o Carwyn yn fachgen ifanc yn ysgol Morfa yn perfformio ar y llwyfan mewn cyngherddau. Edrychom hefyd ar DVD ohono yn actio mewn cyfres deledu a rhaglen ‘Cyw’. Siaradodd am ei yrfa fel cerddor erbyn hyn a’i fryd i fod yn dechnegydd. Mae hyn i gyd yn profi ei fod yn gallu cynnal ei fywoliaeth fel perfformiwr yn yr iaith Gymraeg. Yn ogystal, bu i Yestin Tyne ddod a’i goron a ennillodd am ysgrifennu rhyddiaith yn Eisteddfod yr Urdd y Fflint eleni. Cliciwch yma i weld lluniau o bawb yn mwynhau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Siarter iaith

Siarter iaith

Bu i’r Cyngor Ysgol roi cyflwyniad ‘Siarter iaith’ i rieni yr wythnos hon. Yn y cyflwyniad roeddent yn pwysleisio pa mor lwcus ydym ni o gael dwy iaith. Dwy iaith...dwywaith y dewis! Dangosodd y Cyngor luniau o’n gweithgareddau yn yr ysgol eleni sydd wedi datblygu yr iaith Gymraeg ymhellach.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Anno's Africa

Yn dilyn gwisgo coch ar ddydd Gwyl Dewi i gasglu arian, cyflwynodd y Cyngor Ysgol siec o £41 i elusen Anno's Affrica. Daeth Joy Brown i'r ysgol i dderbyn y siec. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i brynu dillad ysgol ar gyfer plentyn yn y 'slums' yn Affrica.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Plant Mewn Angen

Llwyddodd yr ysgol i gasglu cyfanswm o £110.66 ar gyfer plant mewn angen eleni. Gwych! Diolch i bawb am gyfrannu mor hael a diolch i’r Cyngor Ysgol am eu syniadau difyr i gasglu arian. Daeth pawb i’r ysgol wedi gwisgo fel eu harwyr/arwres. Gwnaeth bawb lun o’i arwyr ar gyfer y gystadleuaeth ac ysgrifennodd Blwyddyn 2 a 3 ddisgrifiad ohono/ ohoni. Bu’r plant yn brysur yn addurno bisgedi smotiog yn ystod y dydd a bu Menter Morfa (cwmni busnes Blwyddyn 3) yn eu gwerthu i’r plant yn ystod amser chwarae ac yng ngiat yr ysgol am 3 o’r gloch.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Gwobrwyo Siarter Iaith

Bu Cyngor Ysgol Morfa Nefyn mewn seremoni gwobrwyo siarter iaith yn Ysgol Glan y Mor. Derbyniodd yr ysgol wobr aur am eu gwaith caled i ddatblygu'r siarter iaith Gymraeg yn yr ysgol. Da iawn!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Gwasanaeth Diolchgarwch

Codwyd swm anhygoel o £301.14 ar gyfer elusen ‘Mwy o arian at dlodi’ yn y Gwasanaeth Diolchgarwch eleni. Gwnaeth y plant fuwch gan ddefnyddio carton llefrith ac aethant a hi adref i gasglu arian ynddi fel cadw-mi-geiPenderfynodd y Cyngor Ysgol ddefnyddio’r arian i brynu dwy fuwch ar gyfer teulu tlawd yn Affrica. Diolch i bawb am eu cyfraniad.

Cyflwyniad Cyngor Ysgol Morfa Nefyn

Cyflwyniad Cyngor Ysgol Morfa Nefyn

 

Dyma ein gwaith yn ystod 2014-2015 - cliciwch yma

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

PMA

Plant mewn angen

Diolch i bawb a gyfrannodd tuag at gronfa Plant mewn angen. Llwyddodd y Cyngor Ysgol i gasglu £126.31 gyda chymorth yr holl ddisgyblion eraill a’r rhieni hael. Bu Blwyddyn 2 a 3 yn brysur iawn yn coginio cacennau blasus adref i’w gwerthu yn yr ysgol ac ymdrechodd pawb i wisgo gwisg melyn neu smotiog. Cafwyd gystadleuaeth creu mwgwd newydd i Pudsey a’r ennillwyr oedd Dylan Binch a Nanw Jones o flwyddyn 2 a 3 ac Ifan John ac Enfys Griffiths o flwyddyn Derbyn ac 1. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

Cadeiryddes
Trysorydd
Ysgrifenyddes
Cadeiryddes
Trysorydd
Ysgrifenyddes

 

Gorffenaf 2014

Diolch i'r Cyngor Ysgol am archebu offer chwaraeon newydd ar gyfer amseroedd chwarae fydd yn datblygu sgiliau anelu plant yr ysgol. Mae’r plant wedi gwirioni gyda’r offer newydd! Mae rhwydi pel-rwyd, set bowlio deg a gemau anelu eraill ar yr iard erbyn hyn.

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

Cyngor ysgol

 

Ionawr 2014
Ym mis Ionawr 2014, gofynnodd y Cyngor Ysgol am dŷ adar newydd gyda chamera ynddo gan fod y camera oedd yn yr ysgol yn barod wedi malu. Penderfynwyd defnyddio arian ‘Menter Morfa’ a gasglwyd ar stondin y Ffair Nadolig i brynu y tŷ adar newydd. Dyma Rhys o gwmni 'Cynnal' wedi gosod y tŷ adar. Mae'r camera wedi ei gysylltu i'r sgrin mawr yn y cyntedd fel y gallwn weld beth sydd yn digwydd tu mewn. Rydym yn edrych ymlaen i weld yr adar yn nythu ynddo yn ystod Tymor y Gwanwyn. llun llun

 

 

Gweithgareddau Tymor yr Hydref:
plentyn

Bu'r Cyngor Ysgol yn brysur yn meddwl am syniadau amrywiol er mwyn casglu arian tuag at gronfa 'Plant mewn Angen'.

 

Llwyddodd y Cyngor i gasglu £132.60 tuag at y gronfa drwy ofyn i ddisgyblion yr ysgol wisgo gwisg ffansi ar y diwrnod, addurno cacennau bach siap Pudsey a chreu masgiau Pudsey i fynd adref.

 

Diolch o galon i'r Cyngor Ysgol am eu gwaith caled!

 

 

 

 

Cadeiryddes
Trysorydd
Ysgrifenyddes