Croeso

  • Dyma Gyngor Ysgol Ysgol Morfa Nefyn. Cliciwch yma i ddysgu mwy am eu cyfrifoldebau a'u gwaith.

    Gweledigaeth Ysgol Morfa

    Ysgol ar gyfer plant hyd at Flwyddyn 3 yw Ysgol Morfa (plant 3-8 oed). Gobeithiwn y bydd y plant yn treulio blynyddoedd cyntaf eu haddysg mewn awyrgylch diogel, hapus a chartrefol gan ddatblygu’n addysgol a chymdeithasol. Mae gennym weledigaeth glir ar gyfer ein dysgwyr - Dringa i fyny, Dringa i'r sêr! Cliciwch ar y ddolen hon i wylio fidio o'r plant yn canu cân y maent wedi ei chyfansoddi gyda Welsh Whisperer am ein gweledigaeth. Mae geiriau'r gân yn egluro sut yr ydym yn defnyddio Meddylfryd o Dwf i ddysgu bob dydd er mwyn Dringo i fyny, Dringo i'r sêr.

    Fideo Welsh Whisperer

    Rhieni

    Diolch i chi am gymryd yr amser i ddarganfod a dysgu am ein hysgol. Gobeithiwn y bydd y wefan hwn yn eich cynorthwyo i roi blas i chi o‘r Ysgol a’r cyfleoedd yr ydym yn eu darparu ar gyfer eich plentyn.

    Linciau i Rieni

    Magu Plant. Rhowch amser iddo

    Dyma ddolen i dudalen Magu Plant, rhowch amser iddo gan Lywodraeth Cymru ble gellir dod o hyd i llawer o 'dips' ymarferol a chyngor arbenigol, am ddim, ar gyfer eich holl heriau magu plant.

    Cwricwlwm i Gymru
    Cliciwch ar y ddolen isod i ddatblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth am y cwricwlwm Newydd.

    Mae addysg yn newid: gwybodaeth i rhieni, gofalwyr a phobl ifanc

    Asesiadau personol rhifedd a darllen
    Mae’r asesiadau personol yn statudol ar gyfer dysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 9 mewn ysgolion yng Nghymru. Cliciwch ar y ddolen isod am fwy o wybodaeth.
    Asesiadau personol: gwybodaeth i rieni a gofalwyr

    Mynediad ysgolion / Symud ysgol
    Ydy eich plentyn chi yn dair oed cyn mis Medi? Cliciwch ar y ddolen hon i gofrestru eich plentyn ym mlwyddyn meithrin ysgol Morfa Nefyn.

    Cinio am ddim
    Mae cinio am ddim ar gael i blant ysgolion cynradd ac uwchradd os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn un o’r budd-daliadau hyn: Cinio am ddim

Newyddion

 

Mae newyddion yr ysgol yn cael ei rannu yn rheolaidd drwy dudalen gweplyfr yr ysgol. Gweler y newyddion diweddar isod:

Presenoldeb

  • Mae presenoldeb da a chyson yn bwysig er mwyn sicrhau fod bob plentyn yn derbyn cyfleoedd i wneud cynnydd yn yr ysgol a llwyddo yn y dyfodol. Ein targed presenoldeb yw 96%. Byddwn yn gwobrwyo presenoldeb da ar ddiwedd bob tymor drwy rannu tystysgrifau.

Siarter Iaith

Mae Ysgol Morfa yn cefnogi Siarter iaith Gwynedd. Cliciwch yma i weld y gweithgareddau.

Mentergarwch

Mae gan dosbarth blwyddyn 2 a 3 gwmni busnes o’r enw MENTER MORFA i ddatblygu eu sgiliau mentergarwch. Cliciwch yma i weld y gweithgareddau.

Hysbysfwrdd

Adroddiad Estyn

Rydym yn hynod o falch o’n hadroddiad Estyn diweddar yn dilyn arolwg ym mis Tachwedd 2023.

Adroddiad arolygiad Ysgol Morfa Nefyn 2023 (llyw.cymru)

 

Côd QR

Mae'r ysgol yn defnyddio côd QR i rannu fidios o weithgareddau llafaredd ac ymarferol y dosbarthiadau yn llyfrau gwaith y plant ac ar y waliau arddangos. Cofiwch lwytho 'app' QR code reader ar eich ffôn symudol er mwyn gallu gwylio y fidios yn ystod ymweliadau.

 

Llythyrau i Rieni

Cylch Meithrin Morfa Nefyn

plantMae gan yr ysgol gyswllt clos ac effeithiol gyda’r Cylch Meithrin er mwyn sicrhau fod bob plentyn yn trosglwyddo yn hyderus pan yn dair oed gan ddatblygu amrywiaeth o sgiliau yn gynnar yn eu haddysg. Cynhelir y cylch yn y Ganolfan ym Morfa Nefyn o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 9:00 ac 11:30 y bore. Mae’r sesiynau ar gyfer plant rhwng dwy a hanner a phedair oed. Oherwydd diffyg staff, mae’r cylch ar gau ar hyn o bryd ond maent yn gobeithio ail agor ym mis Medi 2023. Am fyw o wybodaeth, cysylltwch gyda’r pwyllgor drwy yrru ebost i ysgrifenydd.cylchmorfa@gmail.com