Eco-Ysgol


Mae’r ysgol yn falch o ddilyn cynllun eco-sgolion. Mae’r cynllun wedi ei ddylunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’r gymuned ehangach, tra’n datblygu eu sgiliau allweddol, yn cynnwys rhifedd a llythrennedd, a chwmpasu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang. Dyma lun ein eco-bwyllgor.


 

Rydym yn annog disgyblion i gymryd rhan mewn materion amgylcheddol o ddydd i ddydd a deall pwysigrwydd gofalu am ein hamgylchedd, yn cynnwys


lleihau gwastraff
Arbed ynni ac adnoddau naturiol
Lleihau a rhwystro llygredd
Edrych ar ôl yr amgylchedd lleol, tir yr ysgol a byd eang
Teithio yn ddoeth


Mae disgyblion blwyddyn 3 wedi eu hethol i fod yn aelodau o'r ‘Sgwad Ynni’. Bydd y ‘Sgwad Ynni’ yn gwisgo bathodynau amlwg ar eu siwmperi ac yn cynorthwyo'r ysgol i edrych ar ôl yr amgylchedd drwy arbed ynni yn ddyddiol. Rydym yn rhan o gynllun sbarci a fflic erbyn hyn sef tim sydd yn cydweithio gyda’r disgyblion i’w dysgu sut i arbed ynni a sut i fonitro defnydd ynni yn yr ysgol.

Rydym yn cefnogi cynllun ‘Antur Waunfawr’ o ailgychu dillad. Mae bin glas mawr ar dir yr ysgol er mwyn annog staff, rhieni ac aelodau o’r gymuned i ailgylchu dillad, esgidiau a bagiau. Mae Antur Waunfawr yn casglu’r biniau pan maent yn llawn a bydd yr ysgol yn derbyn arian am y dillad. Felly, hysbyswch eich teulu a’ch ffrindiau er mwyn helpu i lenwi y bin glas!

Mae ein gweithgareddau yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth ac yn datblygu agweddau yn y gymuned ehangach hefyd. Mae Clwb garddio yn cael ei gynnal yn flynyddol yn yr ysgol lle mae’r disgyblion yn gyfrifol am blannu blodau a llysiau amrywiol yn y gwlau plannu. Bydd cwmni busnes blwyddyn 3 o’r enw ‘Menter Morfa’ yn gwerthu’r llysiau i rieni a chyfeillion yr ysgol er mwyn gwneud elw.

 

sbarci a fflic sbarci a fflic Sgwad Ynni
   
Sgwad Ynni

 

plant a moch bach

Clwb garddio

Prynhawn prysur ar gychwyn y tymor newydd ym mis Medi yn chwynnu a thacluso’r ardd!

 

Cerdded i’r ysgol
plant a moch bach

Bum unwaith eto eleni yn cefnogi ‘Wythnos Gerdded i’r Ysgol’. Pwrpas yr wythnos yw hybu cerdded o safbwynt iechyd a gofalu am yr amgylchedd. Daeth Carys Ofalus draw i’r ysgol fore Llun i drafod diogelwch y ffordd gyda’r plant. Bore Mercher, cerddodd holl staff a phlant yr ysgol taith fer o amgylch y pentref.

Cliciwch yma
i weld lluniau o’r daith.

Yn dilyn ymdrech arbennig gan y plant penderfynodd y Cyngor Ysgol i barhau i wobrwyo plant oedd yn cerdded i’r ysgol yn ystod tymor yr Haf. Llwyddodd 27 o blant i dderbyn gwobr am gerdded i’r ysgol mwy na tair gwaith yr wythnos am gyfnod o 7 wythnos. Arbennig! Dyma lun ohonynt yn gwisgo eu crysau ‘Carys Ofalus’.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Gwersi Beicio Blwyddyn 3
plant

Daeth Cheryl, Swyddog Diogelwch y ffyrdd draw i'r ysgol i roi gwersi beicio i flwyddyn 3. Dysgodd y plant sgiliau newydd a sut i fod yn saff wrth feicio i'r ysgol. Rydym yn annog disgyblion i gerdded neu feicio i'r ysgol gyda'i rhieni trwy’r flwyddyn er mwyn datblygu ein ffitrwydd a lleihau llygredd.

 

Cliciwch yma i weld y plant yn mwynhau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Clwb Garddio
plant yn garddio Rydym yn cynnal clwb garddio yn flynyddol er mwyn plannu llysiau a blodau yn yr ardd. Eleni bum yn plannu tatws, moron, pwmpen a hadau berw dŵr. Bu Blwyddyn 2 a 3 yn brysur yn eu tynnu o’r Ddaear cyn diwedd y tymor a’u pwyso yn ofalus er mwyn eu gwerthu i’r rhieni.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau o’r clwb garddio.
Ennillodd yr ysgol gystadleuaeth Gerddi Bwyd Gwynedd yn nhymor yr Hydref. Cafodd y gystadleuaeth ei lawnsio gan Bartneriaeth Amgylcheddol Gwynedd er mwyn annog pobl a phlant i dyfu bwyd eu hunain gan gynnwys ffrwythau, llysiau neu berlysiau. Gwych!
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Glynllifon
plant Bu'r plant yn dysgu enwau blodau gwyllt, enwau coed amrywiol a thrychfilod yn y pwll gyda Swyn Spencer Swyddog Cyfoeth naturiol yng Nglynllifon. Buont yn pysgota am drychfilod y pwll a'u rhoi mewn potiau dwr gan ymchwilio i'w henwau. Aethpwyd ati i chwilio am amrywiaeth o flodau gwyllt hardd. Dysgwyn enwau rhai newydd i'r plant sef Rhyddlwyn y coed, Eidral, Glesyn y coed a melyn Mair. Sgwn i fedrwch chi adnabod y blodau yma yn y lluniau? Cliciwch yma.
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Diwrnod i’r gwenyn
plant

Ar yr 17eg o Hydref, bu holl ddisgyblion yr ysgol yn brysur yn plannu bwlbiau ‘Clychau’r Gog’ ar dir yr Ysgol i gefnogi ‘diwrnod i’r gwenyn’.

 

Derbynwyd dystysgrif gan y naturiaethwr Iolo Williams am helpu i wneud ein amgylchedd yn hardd. Rydym yn edrych ymlaen i weld y planhigion ‘Clychau’r Gog’ yn blodeuo yn nhymor y Gwanwyn.