Croeso
Dyma Gyngor Ysgol Ysgol Morfa Nefyn. Cliciwch yma i ddysgu mwy am eu cyfrifoldebau a'u gwaith.
Plant
Ysgol ar gyfer y Babanod a phlant hyd at Flwyddyn 3 yw Ysgol Morfa (plant 3-8 oed). Gobeithiwn y bydd y plant yn treulio blynyddoedd cyntaf eu haddysg mewn awyrgylch hapus a chartrefol gan ddatblygu’n addysgol a chymdeithasol.
Rhieni
Diolch i chi am gymryd yr amser i ddarganfod a dysgu am ein hysgol. Gobeithiwn y bydd y wefan hwn yn eich cynorthwyo i roi blas i chi o‘r Ysgol a’r cyfleoedd yr ydym yn eu darparu ar gyfer eich plentyn.
Linciau i Rieni
Dilynwch dudalen facebook 'Mae addysg yn dechrau yn y cartref' i dderbyn gwybodaeth am sut i gefnogi eich plant yn y cartref a gwella eu perfformiad yn yr ysgol. Cliciwch yma i welf eu hysbyseb diweddaraf.Lluniau
Cliciwch yma i weld amrywiaeth o luniau o weithgareddau difyr yr ysgol
Presenoldeb
- Mae presenoldeb da a chyson yn bwysig er mwyn sicrhau fod bob plentyn yn derbyn cyfleoedd i wneud cynnydd yn yr ysgol a llwyddo yn y dyfodol. Ein targed presenoldeb yw 96%. Byddwn yn gwobrwyo presenoldeb da ar ddiwedd bob tymor drwy rannu tystysgrifau.
Newyddion
Mae newyddion yr ysgol yn cael ei rannu yn rheolaidd drwy dudalen gweplyfr yr ysgol. Gweler y newyddion diweddar isod: |
Siarter Iaith
Mae Ysgol Morfa yn cefnogi Siarter iaith Gwynedd. Cliciwch yma i weld y gweithgareddau.
Mentergarwch - Llond Bol
LLOND BOL yw cwmni busnes sydd wedi ei sefydlu gan ddisgyblion blwyddyn 2 a 3 fel rhan o brosiect ' Ysgolion creadigol 2017-18' i ddtablygu eu sgiliau mentergarwch. Cliciwch yma i weld y gweithgareddau.
Hysbysfwrdd
ESTYN
Dyma linc i ddarllen adroddiad ESTYN yr ysgol. Cafodd yr ysgol ei harolygu gan ESTYN ym mis Medi 2015:
http://www.estyn.llyw.cymru/sites/default/files/documents/Ysgol%20Morfa%20Nefyn.pdf
Côd QR
Mae'r ysgol yn defnyddio côd QR i rannu fidios o weithgareddau llafaredd ac ymarferol y dosbarthiadau yn llyfrau gwaith y plant ac ar y waliau arddangos. Cofiwch lwytho 'app' QR code reader ar eich ffôn symudol er mwyn gallu gwylio y fidios yn ystod ymweliadau.
Llythyrau i Rieni
Gwisg Ysgol - cliciwch yma
Cylch Meithrin Morfa Nefyn
Mae gan yr ysgol gyswllt clos ac effeithiol gyda’r Cylch Meithrin er mwyn sicrhau fod bob plentyn yn trosglwyddo yn hyderus pan yn dair oed gan ddatblygu amrywiaeth o sgiliau yn gynnar yn eu haddysg. Cynhelir y cylch yn y Ganolfan ym Morfa Nefyn o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 9:00 ac 11:30 y bore. Mae’r sesiynau ar gyfer plant rhwng dwy a hanner a phedair oed. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth gan arweinydd y cylch.
Darllen a Rhifedd Cenedlaethol
Gwybodaeth i rieni am y profion Rhifedd a Darllen Cenedlaethol: Cliciwch yma am ganllawiau yn egluro beth yn union yw'r profion a sut yr adroddir ar y canlyniadau.
Adroddiadau Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol
Cliciwch ar y linc hwn i wylio animeiddiad byr sydd yn rhoi gwybodaeth bellach i rieni ar adroddiadau’r Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol.