Cymdeithas Rhieni ac Athrawon
Mae’r Gymdeithas rieni yn trefnu nifer o weithgareddau yn ystod y flwyddyn er mwyn helpu yr ysgol i dalu am dripiau ac adnoddau newydd i’r plant.Trefnir nosweithiau amrywiol fel Ffair Haf/Nadolig, Disgo Calan gaeaf, teithiau cerdded , cyngerdd Gŵyl Ddewi a nosweithiau cymdeithasol. Mae croeso cynnes i bawb ymuno yn y trefnu.
Credwn fod y Gymdeithas yn cyflawni’r isod:
- • rhoi cyfle i rieni a staff gyfarfod er lles y plant a’r ysgol.
• bod yn gyfrwng i rieni newydd ddod i adnabod yr ysgol ac i ddod i adnabod eu gilydd yn well.
• codi arian ar gyfer yr ysgol er mwyn cyfoethogi andoddau’r ysgol.
• i drefnu cyfarfodydd o ddiddordeb addysgol, diwylliannol neu gymdeithasol ar gyfer y rhieni, staff, disgyblion ar gymuned ehangach.
• i gefnogi gwaith y Pennaeth a’r Llywodraethwyr i sicrhau gwelliannau yn ôl yr angen.
Mae’r Gymdeithas wedi cael cefnogaeth dda iawn gan rieni yn y gorffennol ac apeliwn ar i bob rhiant newydd eu cefnogi.
Y swyddogion cyfredol yw :
Cadeiryddes - Miss Angharad Jones
Trysoryddes - Mrs Tesni Wyn Jones
Ysgrifenyddes - Mrs Nia Lloyd Jones