Newyddion

 

Diwrnod gwych yn Crasu Coed

Diwrnod gwych yn Crasu Coed

Diolch am y croeso cynnes ac i Cian Parry Owen am ddod atom i ddangos sut i arlunio ei ‘ddynion Priciau’ enwog! Diwrnod i’r brenin

Cliciwch yma i weld mwy o'r Diwrnod yn Crasu Coed

Everyone has been busy gardening

Garddio

Pawb wedi bod yn brysur yn garddio

Cliciwch yma i weld mwy o bawb yn garddio

P'nawn difyr iawn yng nghwmni PC Rhiannon a Tariany ddraig

P'nawn difyr

P’nawn difyr iawn yng nghwmni PC Rhiannon a Tarian y ddraig.

Dydd Gwyl Dewi

Dydd Gŵyl Ddewi

Gwisgodd y plant ddillad Cymreig i ddod i’r ysgol ar ddydd Gŵyl Dewi. Bum yn canu a dysgu am Dewi Sant gan ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau difyr.

Diwrnod y Llyfr Gwych

Diwrnod y Llyfr Gwych!

Diolch i Anni Llyn/Ceridwen am ddod atom! Diwrnod yn llawn storiau, chwarae gemau a chyfansoddi cerdd!
Daeth pawb i'r ysgol wedi gwisgo fel cymeriad o'u hoff lyfr.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

Podlediad

Podlediad

Plant blwyddyn da a thri di cael p’nawn difyr yn creu Podlediad ar 'Ailgylchu' gyda Marc Griffiths. Profiad unigryw, pawb wedi cymryd rhan ac wedi mwynhau yn arw.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

Sioe Kariad

Sioe Kariad

Pawb wedi mwynhau sioe rithiol gan gwmni ‘Kariad’ heddiw! Sioe liwgar llawn 'Hud a Lledrith a Hunan hyder!'

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

Carys Ofalus a Diogelwch Ffyrdd

Carys ofalus a Diogelwch y Ffyrdd

Diolch i Miss Paula am ddod i ddysgu’r plant am ddiogelwch y ffyrdd!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

Wythnos Gerdded i'r Ysgol Mai 2022

Wythnos Gerdded i'r ysgol Mai 2022

Penderfynodd y Cyngor Ysgol gefnogi wythnos gerdded i'r ysgol unwaith eto gan annog plant yr ysgol a'r rhieni i gerdded i'r ysgol bob bore a cherdded adref o'r ysgol bob prynhawn.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

Ymweliad Yr Ysgol feithrin

Ymweliad Yr Ysgol feithrin

Cawsom fore bendigedig gyda chriw yr Ysgol Feithrin. Diolch am ddod atom!

Cystadleuaeth Cadw Cymru'n Daclus

Cytadleuaeth 'Cadwch Cymru'n Daclus'

Newyddion da!
Bu i ddosbarth blwyddyn 2 a 3 gymryd rhan yng nghystadleuaeth ‘Cadwch Cymru’n Daclus’. Yr her oedd creu fideo ar y thema ‘Lleihau Gwastraff’. Mae fideo Ysgol Morfa wedi cael ei dewis yn un o’r tri gorau drwy Gymru gyfan! Bydd y fideo yn mynd ymlaen i gynrhychioli Cymru mewn cystadleuaeth Rhyngwladol! Pob lwc!

Sach Hud Sion Corn

‘Sach Hud Siôn Corn’

‘Sach Hud Siôn Corn’ oedd ein cyngerdd Nadolig rhithiol eleni! Pawb wedi mwynhau ac yn edrych yn wych yn eu gwisgoedd!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

Wythnos Llawn dathliadau

Wythnos llawn dathliadau!

Bu plant Blwyddyn 2 a 3 yn brysur yn creu murlyn Santes Dwynwen gyda'r arlunydd lleol Dafydd Trefor. Yn ogystal yn ystod yr wythnos cawsom barti mawreddog i ddathlu penblwydd Mistar Urdd yn 100 oed!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

Plant mewn angen

Diwrnod Ffitrwydd 2020

Casglodd yr ysgol £132 tuag at elusen Plant mewn angen eleni drwy gymeryd rhan mewn ras hwyaid rithiol a gwisgo dillad thema Pudsey. Dyma rhai o’r plant yn ymateb i her ‘actia dy oed’ gan Aled Hughes, BBC Radio Cymru.


Diolchgarwch

Dyma neges o ddiolchgarwch gan blant y Cyfnod Sylfaen. Mae blwyddyn 2 a 3 wedi ysgrifennu gweddi Diolchgarwch bersonol - ewch ar seesaw i glywed gweddi eich plentyn a’i clywed yn canu. Mwynhewch y gwyliau!

Diwrnod Ffitrwydd 2020

Pwmpen

Ar ôl i ni blannu hadau ym mis Mawrth, tyfodd bedair pwmpen anferth yn yr ardd! Cawsom llawer o hwyl yn eu casglu a dyma yw thema y ddau ddosbarth ar hyn o bryd; dysgu am y bwmpen.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

Diwrnod Ffitrwydd 2020

Diwrnod Shwmae Su’mae

Bum yn dathlu diwrnod Shwmae Su’mae - diwrnod i ddathlu’r iaith gan gyfarch ein gilydd yn Gymraeg. Rydym yn ddibynnol iawn ar hyn o bryd ar ddulliau digidol o gyfathrebu ac felly dyma rieni a phlant ysgol Morfa Nefyn yn cyfarch yn Gymraeg drwy fidio. Rhowch gynnig arni!

Diwrnod Ffitrwydd 2020

Cyngor ysgol

Cawsom etholiad Cyngor Ysgol gwahanol iawn eleni gan ein bod mewn dwy swigen. Diolch i flwyddyn 3 am roi perfformiad arbennig i’r plant cyfnod sylfaen o sgrîn i sgrîn yn ein cyfarfod ar-lein. Cafodd pawb gyfle i bleidleisio a dyma nhw aelodau’r Cyngor ysgol eleni. Da iawn i bawb am eu hymdrech!

Diwrnod Ffitrwydd 2020

Diwrnod Ffitrwydd 2020

Daeth pawp i’r ysgol wedi gwisgo dillad ymarfer corff i gymeryd rhan yn y Diwrnod Ffitrwydd.
Diwrnod llawn o weithgareddau cadw’n heini i ddysgu am bwysigrwydd cadw ein cyrff yn iach.
Bum yn rhedeg milltir, ymarfer corff, cymeryd rhan mewn sesiwn ioga a cherdded am dro gyda’r plant meithrin yn y prynhawn.

 

Dathlu Dydd miwsig Cymru

Dydd Miwsig Cymru


Wel am ddiwrnod difyr yn dathlu dydd miwsig Cymru! Daeth pawb ag offerynnau amrywiol i’r ysgol i ymuno wrth wrando ar gerddoriaeth Cymraeg ac roedd y disgo a’r ‘Carioci Cŵl’ yn y prynhawn yn llawn hwyl.

Welsh Music Day

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Diwrnod Santes Dwynwen


DYDD SANTES DWYNWEN HAPUS i bawb. Pawb wedi bod yn brysur yn dysgu stori Dwynwen drwy ymwneud â gweithgareddau llythrennedd, rhifedd, cymhwysedd digidol a chelf.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Taith gwlân


Fel rhan o thema ‘anifeiliaid y fferm’, mae disgyblion blwyddyn Meithrin, Derbyn ac 1 wedi bod yn dysgu am daith gwlân o’r ddafad i’r siwmper. Diolch i mam Elsie am ddod draw i ddysgu pawb am y camau; o’r cneifio i’r gwau. Ewch draw i’w gwefan i weld ei chynnyrch arbennig.
http://www.patchworksheep.co.uk/

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Gwobr Aur Siarter iaith 2019


Rydym wedi derbyn gwobr aur y siarter iaith eto eleni. Da iawn pawb! Dyma ddau aelod o’r Cyngor Ysgol gyda’r tystysgrif.

plant

Canu carolau ym Mhlas Madryn
Diolch i bawb ym Mhlas Madryn am y croeso cynnes cyn y Nadolig. Roedd y plant wrth eu boddau yn canu carolau Nadolig i’r staff a’r preswylwyr.

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Codio Nadoligaidd
Cafodd plant blwyddyn 2 a 3 llawer o hwyl yng nghwmni TechnoEd yn creu gweithgareddau codio Nadoligaidd. Datblygu sgiliau cymhwysedd ddigidol, annibyniaeth a dyfalbarhau.

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Cyngerdd Nadolig
Santa ar Streic oedd ein sioe Nadolig eleni. Da iawn blantos am berfformio mor arbennig. Diolch i staff y golff, rhieni a staff yr ysgol am yr holl gefnogaeth. Dydy Santa ddim ar streic bellach!! HWRE!!

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Goleuo coeden Nadolig y pentref
Diolch i Cylch Meithrin Morfa Nefyn am drefnu noson bendigedig unwaith eto eleni i groesawu Sion Corn i’r pentref. Pawb wedi mwynhau canu carolau o dan y goeden a chyfri yn ôl i oleuo y goeden yng nghwmni Liz Saville Roberts.

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Plant mewn angen
Diolch i bawb am gefnogi a chyfrannu tuag at elusen Plant mewn Angen heddiw. Casglwyd £77.05. Roedd pawb wedi gwisgo i fyny er mwyn cadw’n heini gyda Joe Wicks a Pudsey. Diolch i’r Cyngor Ysgol am eu syniadau. Bu cwmni busnes LLOND BOL yn brysur yn creu byrbryd melys iachus ar gyfer eu gwerthu i’r plant.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Wythnos gwrth-fwlio 2019
Bum yn dathlu wythnos gwrth-fwlio yn yr ysgol gan ddysgu am fwlio a’i effaith. Gwisgodd bawb sanau gwahanol (sanau oedd ddim yn matsio) fel symbol fod pawb yn wahanol mewn ffyrdd amrywiol.


------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Cawl llysiau
Penderfynodd cwmni busnes Llond bol blwyddyn 2 a 3 wneud cawl llysiau blasus i’r rhieni gan ddefnyddio y llysiau yr oeddent wedi eu cyfrannu i addurno y capel ar gyfer y gwasanaeth Diolchgarwch. Blasus iawn! Rhoddwyd mwyafrif y llysiau yn rhodd i gartref Plas Madryn.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Elusen Ambiwlans Awyr
Penderfynodd y Cyngor ysgol gyfrannu casgliad y gwasaneth Diolchgarwch eleni tuag at elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Dyma lun ohonynt yn cyflwyno siec o £128.25 i Eryl sydd yn gweithio i’r elusen.


------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Diwrnod Shwmae Su’mae!
Cliciwch yma i weld fidio y plant a’r rhieni. Diolch i rieni Ysgol Morfa am gymryd rhan a chyfarch yn Gymraeg. Da iawn pawb!

Cliciwch yma i weld y fidio

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

WYTHNOS AILGYLCHU!
Cawsom wythnos ddifyr yn dysgu am bwysigrwydd ailgylchu. Daeth Gwenllian, Swyddog Ailgylchu draw i roi cyflwyniad i’r plant a bu disgyblion blwyddyn M,D ac 1 yn brysur yn creu yn yr ardal gelf a chrefft gyda deunyddiau ailgylchu.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Yr Ardd
Bu dosbarth blwyddyn 2 a 3 yn brysur iawn yn chwynnu’r ardd ar ôl tyfiant gwyliau’r Haf. Bu iddynt gasglu’r blodau gwyllt i’w gwerthu i rieni.


------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Diwrnod Owain Glyndwr
Cawsom ddiwrnod difyr yn dathlu diwrnod Owain Glyndwr eto eleni. Bum yn dysgu am ei hanes ac am gestyll Cymru.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.


------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Sialens ddarllen yr Haf
Llongyfarchiadau i bawb a wnaeth wynebu her sialens ddarllen yr Haf yn y llyfrgell yn ystod gwyliau’r Haf.

 

plant

Gala Nofio
Diolch i ddisgyblion blwyddyn 3 am gynrychioli’r ysgol yn y gala nofio eleni. Llongyfarchiadau i bob un am eu hymdrech a llongyfarchiadau mawr i Guto am gael 1af yn ras cefn blwyddyn 4! Gwych!



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Wythnos Gerdded i’r Ysgol
Ymdrech arbennig unwaith eto gan bawb wrth geisio cerdded i’r ysgol bob dydd o’r wythnos. Llwyddodd yr ysgol i dderbyn tystysgrif arian gan (gwybodaeth yn dod yn fuan)



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Criw Mentrus
Llongyfarchiadau mawr i’r 4 disgybl a fu’n cynrychioli cwmni busnes LLOND BOL ysgol Morfa yng nghystadleuaeth y criw mentrus. Roedd derbyn y gwahoddiad i’r rownd derfynol yn fraint ac yn brofiad anhygoel iddynt! Roeddent wrth eu boddau yn cael cyflwyno eu cynnyrch i bawb, gan gynnwys jam mefus, bara brith a thaffi triog. Llongyfarchiadau mawr iawn i Nico Jones am gael ei ddewis fel yr ‘Unigolyn eithriadol’. Gwych!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Diwrnod Blasu
Pawb wedi mwynhau y diwrnod blasu. Blwyddyn Derbyn wedi bod yn yr ysgol drwy’r dydd a’r plant meithrin newydd wedi ymuno yn y prynhawn. Diwrnod difyr a’r tywydd wedi sicrhau digon o amser yn yr ardaloedd tu allan! Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Gwerthu Letys
Wel mae’r letys yn barod ac ar werth! I bawb a brynodd... mwynhewch eich salad iachus heno! Diolch unwaith eto i LLOND BOL!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Gwyl Blas y Môr
Diolch yn fawr i bawb a ddaeth i wyl Blas y Môr i gefnogi’r ysgol ac i’r Gymdeithas rieni am werthu cacennau blasus! Prynhawn bendigedig yn yr haul. Llongyfarchiadau i ennillwyr y gystadleuaeth gwisg ffansi a’r gystadleuaeth Celf.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Amgueddfa Forwrol
Fel rhan o thema ‘y môr’ aeth plant blwyddyn 2 a 3 i ymweld â Amgueddfa forwrol Nefyn. Roedd pawb wedi mwynhau yn arw ac wedi cael croeso cynnes.

 

 

plant

Parti piws
Pawb wedi mwynhau y Parti Piws heddiw. Diolch i bawb am ymuno ac am gyfrannu tuag at Gylch Meithrin Morfa Nefyn. Roedd y plant wrth eu bodd yn cael ymweliad gan Dewin a Doti yn y prynhawn. Syniad da iawn gan y Mudiad Meithrin!



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Coleg y Bala
Cawsom ddiwrnod gwych yng ngholeg y Bala heddiw yn dysgu am stori’r Pasg drwy weithgareddau amrywiol. Pawb wedi mwynhau! Cliciwch yma i weld mwy o luniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyngerdd Nadolig

Wythnos ‘Dysgu yn yr Awyr Agored’
Cawsom brynhawn difyr ar daith natur y Gwanwyn. Gwelsom flodau gwyllt amrywiol ac ambell i drychfil. Braf oedd cael cyfle i ddysgu am fyd natur yn ein cymuned.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Dathliad ysgolion creadigol
Diolch i bawb a ddaeth i ddathliad ein prosiect ysgolion creadigol heddiw. Mae disgyblion blwyddyn Derbyn ac 1 wedi cael llawer o hwyl yng ngwmni Gai Toms a Siwan Llynor yn ymwneud â gweithgareddau amrywiol i ddatblygu eu dychymyg a’u creadigrwydd. Roedd ymweld â Byd y Tylwyth teg yn hudolus!


------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Diwrnod trwynau coch
Casglwyd £68.44 heddiw drwy dalu £1 am wisgo gwisgoedd gwirion. Cawsom sesiwn dweud jôcs a bu pawb yn brysur yn creu sbectols boncyrs. Diolch o galon i nain Isobel am y cacennau trwyn coch blasus. Pawb wedi mwynhau yn arw!


------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Nia

Diwrnod y Llyfr 2019
Daeth yr awdures Nia Gruffydd i’r ysgol i ddarllen a thrafod straeon cyfres Maes y Mes. Roedd y plant wrth eu bodd yn gwrando ar hanesion difyr y tylwyth teg! Mae disgyblion blwyddyn Meithrin, Derbyn ac 1 yn edrych ymlaen yn arw i ddysgu mwy am y cymeriadau fel rhan o thema y dosbarth.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

merched

Dathlu Dydd Gwyl Dewi
Roedd pawb werth eu gweld yn eu dilladau Cymreig heddiw i ddathlu Dydd Gwyl Dewi. Pleser mawr oedd croesawu Mercher y Wawr i ymuno yn y dathliadau ac i wrando ar berfformiadau y plant.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

pared dewi sant

Pared Dewi Sant
Cawsom fore difyr iawn yn y pared Dewi Sant ym Mhwllheli a’r plent wedi mwynhau canu yng nghwmni Dewi Pws yn arw. Diolch i bawb am ymuno!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Nesta

Meddylfryd o Dwf
‪Diolch i Mrs Nesta Jones, mam y canwr opera bydenwog Bryn Terfel am ymuno gyda ni yn yr ysgol i ddweud hanes ei yrfa. Bu dysgu am ei fywyd yn ysbrydoliaeth i’r plant i ddyfalbarhau, dal ati a dilyn eu breuddwyd.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plentyn

Dydd Miwsig Cymru
Cawsom ddiwrnod arbennig yn dathlu Dydd Miwsig Cymru heddiw. Roedd pawb wrth eu bodd yn canu carioci i gân newydd Seren a Sbarc ac yn gwrando ar eu rhestr chwarae wrth fwyta eu cinio. Ar ddiwedd y dydd bu pawb yn dawnsio i amrywiaeth o ganeuon cymraeg; y ffefryn eleni oedd ‘Rhedeg i Baris’ gan Candelas. Gosodwyd gwis i’r rhieni a’r disgyblion am restr chwarae Seren a Sbarc – dyma lun o ennillwyr y gystadleuaeth gyda’r wobr arbennig.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

bisgedi

Santes Dwynwen
Dydd Santes Dwynwen hapus i chi gyd. Cawsom ddiwrnod difyr yn ymwneud ag heriau amrywiol yn yr ardaloedd dysgu i ddathlu. Bum yn cynllunio a chreu crefftau calonnau ac yn bwyta bisgedi blasus gan gwmni busnes LLOND BOL. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

logo

WCW
Llongyfarchiadau i Nel Lois, blwyddyn meithrin am lwyddo i ddylunio llun broga arbennig ar gyfer cylchgrawn ‘Wcw a’i ffrindiau’.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Dydd miwsig Cymru
Cawsom ddiwrnod arbennig yn dathlu Dydd Miwsig Cymru. Roedd pawb wrth eu bodd yn canu carioci i gân newydd Seren a Sbarc ac yn gwrando ar eu rhestr chwarae wrth fwyta eu cinio. Ar ddiwedd y dydd bu pawb yn dawnsio i amrywiaeth o ganeuon cymraeg; y ffefryn eleni oedd ‘Rhedeg i Baris’ gan Candelas. Pob lwc i’r rhieni a’r disgyblion yn y cwis am restr chwarae Seren a Sbarc yn ystod y penwythnos - pwy fydd yn ennill y wobr arbennig dybed?

Cyngerdd Nadolig

Canu carolau yn Hafod Hedd
Diolch yn fawr iawn i staff Hafod Hedd am y croeso cynnes. Roedd y disgyblion wrth eu bodd yn canu carolau i’r trigolion. Cyflwynwyd siec o £194.10 a gasglwyd yn y cyngerdd Diolchgarwch er mwyn iddynt gael prynu camera newydd.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyngerdd Nadolig

Amgueddfa Lloyd George
Cawsom ymweliad hynod o ddifyr i Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy i ddysgu am draddodiadau Nadolig yn Oes Fictoria.

Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyngerdd Nadolig

Cyngerdd Nadolig
Nadolig yng Ngwlad y Rwla oedd ein cyngerdd Nadolig eleni. Roedd pawb yn edrych yn wych yn eu gwisgoedd.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Plant mewn Angen

Plant mewn Angen
Daeth y disgyblion i’r ysgol wedi gwisgo mewn dillad Pudsey, dillad smotiog neu ddillad melyn i gasglu arian tuag at Blant mewn Angen. Casglwyd £75 i gyd, diolch pawb! Diolch arbennig i’r Cyngor ysgol am drefnu.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Casglu arian at dementia

Ffair Nadolig
Diolch i bawb a fynychodd Ffair Nadolig yr ysgol eleni ac i’r holl rieni am helpu a chyfrannu. Roedd y cacennau ar y stondin gacennau yn edrych yn arbennig. Gwnaethpwyd elw anhygoel o £859. Gwych!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Casglu arian at dementia

Blasu cinio ysgol
Roedd y rhieni a’r disgyblion wedi mwynhau’r sesiwn blasu cinio ysgol. Cafodd y plant meithrin gyfle i flasu amrywiaeth o fwydydd sydd ar y fwydlen ac mae bob un ohonynt yn edrych ymlaen i gael y cinio ysgol pan fyddant yn mynychu drwy’r dydd flwyddyn nesaf.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Casglu arian at dementia

Casglu arian at dementia
Casglwyd £194.10 ar gyfer dementia yn y casgliad Diolchgarwch. Diolch i bawb am gyfrannu mor hael. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i brynu camera ar gyfer preswylwyr Hafod Hedd, yr uned dementia lleol yn Y Ffôr. Maent yn mynd ar dripiau rheolaidd a bydd y camera yn sicrhau fod ganddynt gofnod o’r tripiau difyr a’r atgofion hapus.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Shwmai, Su’mae

Diwrnod Shwmai, Su’mae
Bu’r Cyngor ysgol yn cyfarch rhieni a phlant yn y giat bore heddiw i ddathlu diwrnod Shwmai Su’mae. Dyma lun o gystadleuaeth rhieni ysgol Morfa gan y Cyngor Ysgol. Ydych chi’n gwybod pwy ‘di pwy o’r enwogion Cymraeg? Llongyfarchiadau i bawb a lwyddodd ond yn arbennig i ennillydd y gystadleuaeth; Elin Williams (mam Nel Lois). Derbyniodd CD gyda 40 o ganeuon adnabyddus Cymreig yn wobr.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Shwmai, Su’mae

Rhys a Meinir
Bu dosbarth blwyddyn 2 a 3 yn Nantgwrtheyrn ddoe fel rhan o thema y tymor hwn - chwedl Rhys a Meinir. Roedd pawb wedi mwynhau llawer o weithgareddau amrywiol gan gynnwys helfa drysor, addurno bisgedi a chael eu tywys o gwmpas y Nant yn dysgu am fywyd caled y chwarelwyr. Gwisgodd bawb mewn dillad y cyfnod wrth wrando ar chwedl Rhys a Meinir.


------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Shwmai, Su’mae

Sialens ddarllen yr Haf
Llongyfarchiadau i bawb a wnaeth wynebu her sialens ddarllen yr Haf yn y llyfrgell. Derbyniodd bawb fedal a thystysgrif am ddarllen 9 llyfr yn ystod gwyliau’r Haf. Da iawn chi!



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Dathlu diwrnod Owain Glyndwr

Dathlu diwrnod Owain Glyndwr
Daeth pawb i’r ysgol mewn dillad coch heddiw i ddathlu diwrnod Owain Glyndwr. Bum yn ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau yn y dosbarthiadau i ddysgu am ei hanes.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Gwerthu cacennau mwyar duon

Gwerthu cacennau mwyar duon
Bu i gwmni busnes LLOND BOL gael ‘helpars’ bach i gasglu mwyar duon gyda hwy cyn mynd ati i goginio cacennau a’u gwerthu i’r plant a’r rhieni! Diwrnod prysur a difyr!

Cliciwch yma i weld y lluniau.

bachgen

Gelli Gyffwrdd
Cawsom drip diwedd tymor gwych yn Gelli Gyffwrdd!
Cliciwch yma i weld yr holl luniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

bachgen

Codi tatws
Gwaith caled oedd codi’r tatws. Byddwn yn eu pwyso a’u rhoi mewn bagiau yn barod i’w gwerthu ar stondin Menter Morfa yn y Ffair Haf. Cofiwch eu prynu!



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Ffair Haf
Noson lwyddiannus iawn yn Ffair Haf yr ysgol. Gwnaethpwyd elw arbennig o £643.44! Diolch i’r Gymdeithas Rieni a phawb a gefnogodd y noson. Diolch o galon i Elfed, Spar Nefyn am gyfrannu mor hael tuag at ein BBQ. Cliciwch yma i weld y lluniau!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Penblwydd Cyw
Bum yn dathlu penblwydd Cyw yn 10 oed. Cliciwch yma i weld lluniau o blant y Cyfnod Sylfaen yn paratoi at y parti yn ardaloedd dysgu y dosbarth. Cardiau, hetiau, addurno bisgedi a gemau difyr!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Gŵyl Fwyd Môr
Diolch yn fawr i bawb a ddaeth i’r traeth i’r Gŵyl Fwyd Môr i gefnogi’r ysgol ac i’r Gymdeithas rieni am werthu cacennau blasus! Y plant wedi canu yn wych a phawb wedi mwynhau prynhawn bendigedig yn yr haul. Llongyfarchiadau i ennillwyr y gystadleuaeth Celf- Isabella, Jamie, Cynan, Nico ac Ela.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Ailgylchu
Daeth Gwenllian, Swyddog Ailgylchu i’r ysgol at ddisgyblion blwyddyn 2 a 3 i drafod pwysigrwydd ailgylchu. Cawsom fore difyr iawn yn ei chwmni!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Planhigion
Diolch yn fawr i Robert Parkinson o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ddod draw i’r ysgol i ddysgu disgyblion blwyddyn Derbyn ac 1 am sut mae planhigion yn tyfu. Cafodd pawb fore difyr yn chwilio am blanhigion amrywiol ar dîr yr ysgol ac yn plannu hedyn blodyn haul. Blodyn haul pwy fydd y cyntaf i dyfu dybed?

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Casglu sbwriel ar y traeth
Daeth Catrin Glyn, Swyddog Cadwraeth Pen Llyn a’r Sarnau i’r ysgol heddiw i siarad gyda bl 2 a 3 am ei gwaith. Cawsom amser gwych yn ei chwmni yn dysgu am fywyd y môr ym Mhen Llyn a pha effaith mae llygredd yn ei gael a’r greaduriaid y môr. Yn dilyn hyn aethom lawr i draeth Bwlch i gasglu sbwriel...a llawer ohono!! Diwrnod addysgiadol iawn. Cliciwch yma i weld mwy o luniau



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Diwrnod trosglwyddo dosbarthiadau
Pawb wedi mwynhau y diwrnod trosglwyddo yn mis Mehefin! Blwyddyn Derbyn newydd wedi mwynhau cael cinio ysgol am y tro cyntaf a phlant blwyddyn Meithrin newydd wrth eu boddau yn yr ardaloedd tu allan. Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

LLOND BOL
Diolch i bawb a fynychodd lansiad cwmni busnes 'LLOND BOL' blwyddyn 2 a 3. Gwerthodd y plant eu cynnyrch cyntaf heddiw sef cacennau cri blasus. Beth fydd eu syniad nesaf dybed? Mae'r disgyblion wedi mwynhau y broses yn arw, gan ddysgu sgiliau mentergarwch a Thechnoleg Gwybodaeth. Diolch i Owain Llyr, Martin Thomas a Sian Thomas am eu cefnogaeth.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Gweithgareddau'r Ganolfan Hamdden
Mae’r gweithgareddau Antur wedi cychwyn yn y Ganolfan unwaith eto eleni. Bu rhai o ddisgyblion blwyddyn 2 a 3 yn mwynhau dysgu sgiliau achub bywyd ac eraill yn dringo ar y wal ddringo.

Cliciwch yma yma i weld mwy o luniau!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Garddio
Mae blwyddyn 2 a 3 wedi bod yn brysur iawn yn garddio yr wythnos hon. Roedd llawer o waith i’w wneud gan gynnwys chwynnu a phalu i baratoi y tîr cyn plannu’r tatwstatoes.
Cliciwch yma yma i weld mwy o luniau!


plant

Presenoldeb llawn
Llongyfarchiadau i’r disgyblion yma am bresenoldeb llawn yn ystod tymor y Gwanwyn. Gwych!



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Cyswllt rhwng yr ysgol a’r Cylch Meithrin

Daeth plant y Cylch Meithrin am dro i’r dosbarth yr wythnos hon. Bu i bawb fwynhau chwarae yn yr ardaloedd tu allan a thu mewn a bum yn canu hwiangerddi cyn mynd adref. Roedd blwyddyn Derbyn ac 1 wedi mwynhau eu cwmni yn arw! Cliciwch yma i weld mwy o’r lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Dydd miwsig Cymru

Diolch i Owain Llyr am ddod a’i offer DJ i’r ysgol i ni gael dathlu #DyddmiwsigCymru. Cawsom ddisgo arbennig yn gwrando ar amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg! Syniad gwych unwaith eto gan y Cyngor Ysgol. Cliciwch yma i weld mwy o’r lluniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Eisteddfod

Llongyfarchiadau i’r tri disgybl yma yn yr Eisteddfod Cylch a phob lwc iddynt yn yr Eisteddfod Sir ym Mangor.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Cyngerdd Gŵyl Ddewi

Gwisgodd y plant ddillad Cymreig neu lliwiau’r faner i ddod i’r ysgol ar ddydd Gŵyl Dewi. Bum yn dysgu am Dewi Sant gan ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau. Cynhaliwyd ein cyngerdd Gŵyl Ddewi yn y Ganolfan a bu’r plant yn canu, llefaru a dweud jôcs wrth y gynulleidfa. Ymunodd rhieni sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol gyda’r plant ar y llwyfan i ganu hwiangerddi. Llongyfarchiadau mawr iddynt!



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Dathliadau a Traddodiadau’ Flwyddyn Newydd

Bu dosbarth blwyddyn Meithrin, Derbyn ac 1 yn dysgu am ddathliadau’r Flwyddyn Newydd. Dysgom am draddodiadau traddodiadol yr hen galan yng Nghymru ac am draddodiadau difyr iawn sydd yng Ngwledydd eraill y Byd. Cliciwch yma i weld lluniau o’r gweithgareddau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Rhieni yn dysgu cymraeg - Sesiwn 2

Gwahoddwyd rhieni sydd yn dysgu Cymraeg i’r ysgol eto ym mis Ionawr. Yn ystod y sesiwn bum yn dysgu sut i drafod y tywydd yn syml a sut i gyfri gan adnabod rhifau yn Gymraeg. Cafodd bob un o’r rhieni gyfle i weithio yn y siop llefrith gan ddysgu patrymau brawddeg newydd. Diolch i chi am ymuno! Rydym yn edrych ymlaen at sesiwn mis Chwefror yn barod.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Ysgolion Creadigol

Ysgolion Creadigol

Cynhaliwyd sesiwn 1 ‘ysgolion creadigol arweiniol’ yr wythnos hon. Daeth Martin Thomas a Owain Llyr i’r ysgol i gynnal gweithgareddau amrywiol fel rhan o’r prosiect i ddatblygu sgiliau mentergarwch a digidol y disgyblion. Cafodd y plant gyfle i gyfweld perchnogion Garej Morfa i ddysgu am eu busnes. Diolch i staff Garej Morfa am y croeso!

 

children

Presenoldeb

Llongyfarchiadau i'r plant hyn am lwyddo i gael presenoldeb llawn yn nhymor yr Hydref gan fynychu'r ysgol bob dydd! Gwych!



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Nadolig 2017

Cawsom llawer o hwyl yn dathlu'r Nadolig unwaith eto yn yr ysgol. Yn dilyn cyngerdd arbennig gan y disgyblion, aethom am drip Nadoligaidd i weld Panto 'Culhwch ac Olwen' yng Nghriccieth a galw i weld Sion Corn yn Nhyddyn Sachau ar y ffordd yn ol. Gwsigodd pawb siwmper Nadolig i ddod i'r parti Nadolig yn yr ysgol, gan gasglu arian tuag at gronfa Evie Hughes. Casglwyd £42 i gyd! Cliciwch yma i weld holl luniau o ddathliadau'r Nadolig.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Dysgu am y Rhyfel Byd 1af gyda Steve Jones

Daeth Steve Jones i'r ysgol i drafod gwrthrychau y Rhyfel Byd 1af gyda disgyblion blwyddyn 2 a 3. Bu iddynt ddysgu llawer yn ei gwmni. Diolch iddo am ei amser.

Cliciwch yma i weld yr holl luniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Canu Carolau ym Mhlas Madryn

Aeth y disgyblion i ganu carolau i drigolion Plas Madryn yn dilyn y Cyngerdd Nadolig. Cawsom groeso cynnes yn ol yr arfer a phawb yn canu eu gorau glas. Cliciwch yma i weld yr holl luniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Ffair Nadolig

Codwyd swm anhygoel o £1082.87 yn y ffair Nadolig eleni. Diolch i’r gymdeithas rieni am drefnu ac i bawb am bob cefnogaeth. Hoffem ddiolch yn arbennig i Nanhoron am gael defnyddio’r gwesty ac am fod mor gefnogol!



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Dysgu Cymraeg

Gwahoddir rhieni sydd yn awyddus i ddysgu Cymraeg i’r ysgol. Yn ystod y sesiwn gyntaf y tymor hwn, ymunodd tad Isobel gyda ni yn y dosbarth gan gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol a chanu hwiangerddi. Dysgodd llawer o eiriau newydd gan gynnwys enwau adar. Bu’n rhannu llefrith i’r plant gan weithio yn y ‘siop llefrith’. Diolch iddo am ymuno gyda ni ac am fod mor awyddus.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Sul y cofio

Daeth Myfanwy Hughes i'r ysgol i drafod 'Sul y Cofio' gyda plant Bl 2 a 3 yr wythnos hon! Dangosodd rith o bapi coch hardd i gofio am y milwyr a gollodd eu bywydau yn y rhyfel mawr a'r ail ryfel byd! Aeth y plant gyda hi i weld cofgolofn yn Eglwys Santes Fair, Morfa Nefyn. Esboniodd y bydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal dydd Sul i gofio am y milwyr! Gofynodd i 2 blentyn hynaf yr ysgol i fynychu y gwasanaeth arbennig dydd Sul ac i osod rith ger y gofgolofn ar ran y Cynghorydd Lis Saville Roberts.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Gymnasteg

Cynhaliwyd y Cyngerdd Diolchgarwch yn yr Eglwys Santes Fair eleni. Cafodd plant blwyddyn 2 a 3 hwyl yn creu siapiau gyda eu cyrff yn y wers gymnasteg. Roeddent yn cyd-weithio gyda partner gan ddatrys problem a chreu siap ble roedd rhannau amrywiol o'u cyrff yn cyffwrdd. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.


------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Gwasanaeth Diolchgarwch

Cynhaliwyd y Cyngerdd Diolchgarwch yn yr Eglwys Santes Fair eleni. Roedd y disgyblion yn diolch am dymor yr Hydref a perfformiwyd stori 'y wiwer fach goch' gan blant blwyddyn 2 a 3. Cafwyd casgliad tuag at cronfa Evie Hughes. Casgliwyd £227.27 i gyd. Diolch i bawb am fod mor hael. Bydd yr ysgol yn trefnu mwy o weithgareddau yn ystod y tymor er mwyn casglu mwy o arian i'r gronfa.


------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Canu ym Mhlas Madryn

Yn dilyn ein cyngerdd Diolchgarwch, aethom am dro i Blas Madryn i ganu caneuon y cyngerdd i'r henoed. Cawsom groeso cynnes ganddynt ac roedd y staff wedi paratoi cacennau blasus i ddiolch i'r plant am ganu mor dda a chodi calonnau'r preswylwyr. Cliciwch yma i weld yr holl luniau.




------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Hyfforddiant ‘defib’

Daeth Philip Jones, amiwlans Cymru draw i'r ysgol i siarad gyda'r plant a rhieni am y ‘Defib’ a rhoi hyffroddiant syml iddynt. Dysgodd pawb am ei bwysigrwydd i’r gymuned. Cliciwch yma i weld y lluniau.




------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Plas yn Rhiw, Hydref 2017

Hoffai blant blwyddyn Derbyn ac 1 ddiolch i Robert sydd yn gweithio gyda’r Ynddiriedolaeth am fore difyr ym Mhlas yn Rhiw unwaith eto. Bum yn chwilio am adar amrywiol ac yn dysgu eu henwau cyn mynd ati i greu peli o fwyd iddynt ar gyfer y Gaeaf gan ddefnyddio lard, hadau a chnau. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.


------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Sialens ddarllen yr Haf

Llwyddodd 16 o ddisgyblion i gwblhau sialens ddarllen yr Haf eleni. Dyma luniau ohonynt gyda’r tystysgrifau a’r medalau. Llongyfarchiadau mawr iddynt!


------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

p c owen

Ymweliad PC Owen

Daeth PC Owen i’r ysgol yr wythnos hon. Bu i blant blwyddyn Derbyn ac 1 ddysgu am leoliadau yn yr amgylchedd sydd yn ddiogel i chwarae ynddynt ac adnabod peryglon mewn lleoliadau sydd ddim yn ddiogel. Dysgodd blwyddyn 2 a 3 beth yw ystyr y gair bwlio a sut i fod yn ffrind da.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Ysgwrn

Ymweld a'r Ysgwrn

Aeth disgyblion blwyddyn 2 a 3 i ymwed a'r Ysgwrn yn Nhrawsfynydd i gofio am y bardd Hedd Wyn a bu farw can mlynedd yn ol yn y rhyfel mawr! Bu iddynt fwynhau gweld y 'Gadair ddu' a'r ffermdy. Profiad gwerth chweil!

Cliciwch yma i weld y lluniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyngior Yr Ysgol 2017 - 2018

Y Cyngor Ysgol Newydd

Llongyfarchiadau i bump cynghorydd newydd Ysgol morfa Nefyn. Etholwyd y pump ohonynt yn dilyn perfformiad yn rhannu syniadau a’i gweledigaeth o wella yr Ysgol gyda’r holl ddisgyblion. Mae ganddom gadeirydd a chadeiryddes, trysorydd, ysgrifennydd ac ysgrifenyddes. Maent wedi cychwyn ar eu gwaith yn barod ac yn mwynhau y cyfrifoldebau. Cliciwch yma i weld lluniau o’r etholiad




plant

Ffair Haf 2017

Casglwyd swm anhygoel o £750.58 yn y Ffair Haf eleni. Diolch i Gymdeithas Rieni yr ysgol am drefnu y Ffair ac i’r holl rieni am gefnogi a gwario ar y noson. Cliciwch yma i weld lluniau o’r mabolgampau a’r Ffair Haf.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Dathlu llwyddiant lleol

Nos Wener, 14eg o Orffennaf, 2017 trefnwyd noson arbennig i longyfarch Mared Llywelyn Williams, cyn-ddisgybl ysgol Morfa ar ei llwyddiant yn ennill y fedal ddrama yn Eisteddfod yr Urdd, Pen-y-Bont ar Ogwr eleni. Gwahoddwyd Nia W Williams, pennaeth yr ysgol i roi gair am Mared am ei chyfnod yn ysgol Morfa, a bu i blant Bl 2 a 3 ganu caneuon traddodiadol y môr ar y noson. Bu i Mared, ar gais y Cyngor Ysgol, ddod i’r ysgol y Dydd Llun canlynol i siarad gyda’r plant am ei chyfnod yn yr ysgol, ei hanes yn ennill y fedal ddrama yn yr Eisteddfod a chyflwyno sialens ddarllen yr haf gan ei bod yn gweithio yn y llyfrgell.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Sialens ddarllen yr Haf

Yn dilyn sgwrs gan Mared Llywelyn yn yr ysgol i annog y disbyglion i gymryd rhan yn y sialens ddarllen, cerddodd holl blant yr ysgol i’r Llyfrgell yn Nefyn i ddewis 3 llyfr ar gyfer y gwyliau. Enw’r sialens eleni yw ‘Asiantaeth anifeiliaid’, cyffrous iawn! Cofiwch ymweld â’r Llyfrgell ddwy waith eto yn ystod y gwyliau Haf i gwblhau’r sialens a derbyn medal. Cliciwch yma i weld lluniau ohonom yn y Llyfrgell.




------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Ymweld a’r Bad Achub

Bu plant blynyddoedd Derbyn, 1, 2 a 3 ym Mhorthdinllaen yr wythnos hon yn ymweld â’r Bad Achub. Bwriad yr ymweliad oedd i gyflwyno siec o £50 yr oedd y Cyngor Ysgol wedi ei gasglu ar gyfer y Bad Achub yn ystod y tymor. Yn y prynhawn, bum yn coginio ‘marshmallows’ ar y traeth gyda Laura a Robert o’r Ymddiriedolaeth. Cawsom ein dal yn y storm ac roedd pawb yn wlyb socian yn cyrraedd nôl i’r ysgol. Diwrnod llawn hwyl a sbri! Cliciwch yma i weld y lluniau.




------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Thema ‘Hindwaeth’

Bu disgyblion bl 2 a 3 yn dilyn thema Hindwaeth gyda Mrs Pari, gan ddysgu am grefydd gwahanol i Gristnogaeth. Daeth nain Lili a llawer o ddillad ac arteffactau o India i ddangos i’r plant.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau o weithgareddau’r thema.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Casglu arian tuag at elusen ‘Epilepsy’

Ar gais y Cyngor Ysgol, daeth Catrin Davies o ysgol Cymerau i siarad gyda plant yr ysgol am ei phrofiad yn torri ei gwallt hir (40cm) ar raglen Heno, S4C. Bydd gwallt Catrin yn cael ei ddefnyddio i greu wig ar gyfer cronfa ‘Little Princess trust’. Yn ogystal, roedd Catrin yn codi arian tuag at elusen ‘Epilepsy’. Er mwyn helpu Catrin i godi mwy o arian, penderfynodd y Cyngor Ysgol drefnu diwrnod ‘gwalltiau gwirion’. Daeth yr holl staff a disgyblion i’r ysgol wedi lliwio eu gwalltiau, neu yn gwisgo wig doniol. Codwyd swm anhygoel o £61.03.




------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Coginio Samosas

Fel rhan o thema Hindwaeth y dosbarth, bu’r plant yn brysur yn coginio Samosas llysieuol iachus. Blasus iawn!

Cliciwch yma i weld y lluniau.




------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Plas Menai

Bu plant blwyddyn 2 a 3 ym Mhlas Menai yn ymwneud ag anturiaethau dwr. Bu iddynt 'padyl fyrddio’, caiacio a chyd-weithio fel tîm, heb sôn am neidio i'r Fenai!

Cliciwch yma i weld y lluniau.




------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Trip i Pili Palas

Aeth dosbarth blwyddyn Derbyn ac 1 i Pili Palas fel trip ysgol eleni. Bu i bawb gael diwrnod i'r brenin yn dysgu gwybodaeth newydd am drychfilod a chael cyfle i afael mewn rhai anifeiliaid dychrynllyd iawn!!

Cliciwch yma i weld mwy o luniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Mabolgampau a Ffair Haf

Nos Iau, Gorffennaf 13eg

Ar gae yr ysgol

Mabolgampau’r ysgol yn cychwyn am 5:00yh a’r Ffair Haf am 6:30yh

Cliciwch yma i weld mwy o wybodaeth



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Gwerthu letys
Bu plant blwyddyn 2 a 3 yn codi letys o ardd yr ysgol yn ddiweddar. Bu i griw mentergarwch 'Menter Morfa' eu gwerthu wrth giat yr ysgol i rieni a chyfeillion yr ysgol. Cliciwch yma i weld y lluniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Garddio yn y pentref
Yn dilyn syniad arbennig y cyngor ysgol i gyfrannu at harddwch y pentref y pentref, bu disgyblion blwyddyn 2 a 3 yn plannu blodau gyda aelodau o glwb garddio y pentref. Cliciwch yma i weld lluniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Ras trawsgwlad y Faenol
Bu i bedwar plentyn o flwyddyn 3 gystadlu yn 'Ras y Faenol' eleni - Cian Jones, Caio Griffiths, Cadi Midwood a Ioan Davies. Rhedodd bob un gan wneud eu gorau glas! Maent wedi bod yn ymarfer yn ddyddiol yn yr ysgol yn ystod amseroedd chwarae gan amseru i ddatblygu eu cyflymder.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Perfformio yn Pontio
Cafodd disgyblion blwyddyn 2 a 3 wahoddiad i ganu yn seremoni gwobrwyo myfyrwyr TAR y bifysgol. Ms Williams oedd y siaradwr gwadd ar y diwrnod. Bu i bawb fwynhau perfformiad y plant.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Casglu arian at y Bad Achub
Penderfynodd y Cyngor Ysgol gefnogi y diwrnod casglu arian at y Bad Achub ym mis Mai. Talodd holl blant yr ysgol £1 er mwyn cael dod i'r ysgol mewn dillad yr Haf. Casglwyd £50.25. Gwych! Diolch i'r rhieni a staff yr ysgol am gefnogi.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Athletau yr Urdd
Llongyfarchiadau i dîm yr ysgol am ddod yn drydydd yn ras gyfnewid cymysg blwyddyn 3 yn athletau'r Urdd. Gwych!



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Wythnos Gerdded i'r ysgol Mai 2017

Penderfynodd y Cyngor Ysgol gefnogi wythnos gerdded i'r ysgol unwaith eto gan annog plant yr ysgol a'r rhieni i gerdded i'r ysgol bob bore a cherdded adref o'r ysgol bob prynhawn. Cliciwch yma i weld lluniau o'r plant oedd wedi ymdrechu gyda'u tystysgrifau.

plant

Athletau yr Urdd
Llongyfarchiadau i Cian, Cadi, Ania ac Eiri o flwyddyn 3 am eu llwyddiant yn athletau yr Urdd yr wythnos hon. Llwyddodd y tîm i gael trydydd yn y ras gyfnewid. Da iawn chi! Cliciwch yma i weld mwy o luniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Gwobr Addysgu Proffesiyniol Cymru
Cynhaliwyd gwobrau addysgu proffesiynol Cymru am y tro cyntaf eleni yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, dydd Sul, 7fed o Fai 2017. Enwebwyd Nia Wyn Williams am wobr Pennaeth y flwyddyn gan gadeirydd llywodraethwyr yr ysgol. Llwyddodd i gyrraedd y rownd derfynol a mynychu’r seremoni wobrwyo. Llongyfarchiadau mawr iddi am gyrraedd yr ail safle. Mae Llywodraethwyr , staff a rhieni’r ysgol yn falch iawn o’i llwyddiant ac yn ei llongyfarch.
Professional Teaching Awards Cymru

Cliciwch yma i weld fidio o'r enwebiad



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Diogelwch y Wê
Daeth PC Owen i'r ysgol i ddysgu'r plant am bwysigrwydd bod yn ddiogel ar y wê. Gwyliodd y plant gartwn difyr oedd yn llawn negeseuon pwysig! Cofiwch am wefan ‘schoolbeat’ ble mae llawer o gemau i atgoffa eich plentyn am y negeseuon hyn sydd yn cael eu rhannu gan PC Owen. Mae linc i’r wefan ac i’r gemau ar gael yn adran y rhieni ac adran y plant ar y wefan hon.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Gweithgareddau'r Ganolfan Hamdden
Mae Blwyddyn 2 a 3 yn cael amrywiaeth o sgiliau yn y Ganolfan Hamdden y Tymor hwn gan gynnwys sgiliau achub bywyd yn y pwll nofio a dringo ar y wal ddringo. Cliciwch yma i weld lluniau ohonynt yn gweithio yn galed iawn ac yn dysgu sgiliau hynod o bwysig! Bydd lluniau newydd yn cael eu hychwanegu bob wythnos.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Clwb Misol

Llongyfarchiadau i Colin Jones, tad Guto o flwyddyn 1 am ennill clwb misol mis Mai gyda rhif 6.




------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Gwobrau Nofio

Llongyfarchiadau i'r plant hyn am dderbyn gwobr sgiliau dwr gradd 1, gradd 2 a gradd 3 yn ystod y tymor. Da iawn chi!



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Presenoldeb tymor y Pasg 2017

Llongyfarchiadau i'r disgyblion hyn am lwyddo i fod yn bresennol yn yr ysgol bob dydd yn ystod tymor y Pasg. Llwyddodd Connan Wray o flwyddyn 1 ac Efan Hughes o flwyddyn 2 i dderbyn tystysgrif am bresenoldeb llawn ers mis Medi. Arbennig!



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Munud y dydd blwyddyn 3

Llongyfarchiadau i'r plant yma am lwyddo i ddefnyddio dull munud y dydd i ddysgu tabl 3.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Munud y dydd blwyddyn 2

Llongyfarchiadau i'r plant yma am lwyddo i ddefnyddio dull munud y dydd i ddysgu tabl 5.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Bagiwch a biniwch!

Daeth Jonathan Neale, Swyddog Trefi Taclus a'r Cynghorydd Sian Hughes i'r ysgol i longyfarch tri plentyn am lwyddo i greu poster 'baw ci'. Bydd y posteri yn cael eu harddangos o gwmpas y pentref er mwyn i bawb fod yn ymwybodol bod angen cadw'r pentref yn lan ac yn daclus.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Eisteddfod yr Urdd Eryri

Llongyfarchiadau i'r tri disgybl yma a lwyddodd i gyrraedd y llwyfan yn Eisteddfod yr Urdd Eryri eleni. Da iawn chi!



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Felin Uchaf

Gan bod dosbarth blwyddyn Derbyn ac 1 yn dysgu am gartrefi amrywiol o fewn eu thema y tymor hwn, bu iddynt ymweld â Felin Uchaf, Rhoshirwaun i weld y tai crwn Celtaidd. Roedd yr ymweliad yn arbennig a dysgodd y plant llawer o wybodaeth am y Celtiaid yn ogystal a chael cyfle i gymharu y tai crwn gyda ein cartrefi ni heddiw. Diolch i griw Felin Uchaf am y croeso cynnes! Cliciwch yma i weld y lluniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Trwynau Coch

Trefnodd y Cyngor ysgol ddiwrnod 'doniol' iawn Dydd Gwener y 24ain o Fawrth, 2017 sef diwrnod 'Trwynau Coch' (Comic relief). Bu i'r plant a'r staff wisgo i fyny yn ddoniol iawn! Gwisgodd rhai fel clown, wigiau doniol a rhai o'r genod yn gwisgo I fyny fel hogiau a'r hogiau yn gwisgo i fyny fel genod! Cawsom brynhawn difyr yn dweud jocs ac adrodd straeon digri! Talodd Ms Williams arian i'r plant fod yn dawel am 2 funud!!! Yna, am 3 o'r gloch gwerthodd y plant gacennau trwynau coch wrth giat yr ysgol. Codwyd swm o £111.50 at yr achos. Diolch i bawb am gyfrannu i godi arian at achos da! Cliciwch yma i weld y lluniau



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Baner Cymru

Ar gais y Cyngor ysgol, daeth Dewi Pws i'r ysgol i godi ein baner Cymru newydd sydd ar dîr yr ysgol. Ymunodd y rhieni ar ddiwedd y dydd wrth ei wylio yn torri y ruban a chodi y faner yn uchel. Canodd bawb Hen Wlad fy Nhadau. Cliciwch yma i weld lluniau a fidio.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Noson wobrwyo Estyn

Gwahoddwyd Pennaeth ac athrawes yr ysgol i noson wobrwyo gan Estyn yng Nghaerdydd ar y 9fed o Fawrth. Cynhaliwyd y noson i gydnabod rhagoriaeth mewn addysg yng Nghymru. Derbyniodd yr ysgol dystysgrif am dderbyn rhagoriaeth yn arolwg 2015-16. Rydym yn hynod o falch o'r llwyddiant hwn. Cliciwch yma i ddarllen 'llawlyfr noson wobrwyo Estyn' a darllen am lwyddiant ysgol Morfa Nefyn yn y ddogfen



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Ymweld a Phlas Madryn

Cerddodd plant yr ysgol i Blas Madryn, Morfa Nefyn yn dilyn y cyngerdd Gwyl Ddewi i ganu caneuon traddodiadol cymreig a llefaru i'r henoed. Diolch yn fawr iddynt am y croeso cynnes a chacen fendigedig. Cliciwch yma i weld y lluniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Dydd Gwyl Dewi

Bum yn dysgu am Dewi Sant yn yr ysgol yr wythnos hon. Gwisgodd y plant wisg Cymreig neu ddillad o liwiau Cymreig i ddod i'r ysgol ac ymwneud a llawer o weithgareddau difyr. Ymunodd Dewi Pws gyda'r plant ar y llwyfan yn y cyngerdd Gwyl Ddewi i ganu llawer o ganeuon traddodiadol. Roedd y blant wrth eu bodd yn ei gwmni. Cliciwch yma i weld y lluniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Dydd Mawrth Crempog

Roedd y plant wrth eu boddau yn coginio crempogau blasus ar ddydd Mawrth ynyd. Bum yn ysgrifennu riseitiau a chanllawiau ar gyfer gwneud y crempogau cyn mynd ati i fesur a phwyso yn ofalus a chael hwyl yn eu coginio a'u blasu. Cliciwch yma i weld y lluniau.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

O'r fferm i'r fforc

Bu dosbarth blwyddyn 2 a 3 a dosbarth derbyn ac 1 yn Tesco, Porthmadog yr wythnos hon. Dysgodd y plant sut oeddent yn pobi y bara cyn cael cyfle i flasu'r bara a chaws amrywiol. Cafodd y plant gwis i ddysgu gwybodaeth difyr am amrywiaeth o lysiau a ffrwythau a chyfle i gerdded i mewn i'r oergell a'r rhewgell!! Bu blwyddyn Derbyn ac 1 yn gweithio ar y 'tils'. Cliciwch yma i weld lluniau o'r ymweliad.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Gweithgareddau llyfrgell

Taith Gem ‘n’ Huw – Dydd Mawrth - Chwefror 21, 10.30 – 11.30. Stori a Hwyl i blant. Dewch i gyfarfod Gem ‘n’ Huw.
Bore Hwyl Bwystfilod Anhygoel – Dydd Iau - Chwefror 23, 11.00 – 12.00. Dewch i greu bwystfil eich hunan, celf mawr, hela’r bwystfil a llawer mwy.
Pared Dewi Sant – Dydd Sadwrn - Chwefror 25, Sesiwn paentio wynebau o 10y.b ymlaen ar fore’r Pared.
Betsan Brysur – Dydd Mawrth - Mawrth 7, 10.30 – 11.30. Stori a sbri i’r teulu oll efo Betsan Brysur.
Mari Gwilym – Dydd Sadwrn - Mawrth 18, 10.30 – 11.30. Hoff straeon Mari Gwilym – amser stori i blant 3-7 oed.

Cliciwch ar y posteri isod am fwy o wybodaeth

poster
poster poster poster


------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Ymweliad Dr Bee

Thema Gwyddoniaeth Blwyddyn 2 a 3 y tymor hwn yw 'Y corff'. Cafodd y plant y syniad o wahodd Dr Bee i'r ysgol i siarad am ei gwaith ac ateb cwestiynau a oeddent wedi eu darparu. Diolch yn fawr iddi am brynhawn diddorol llawn gwybodaeth difyr.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Canu gyda Dewi Pws

Daeth Dewi Pws i'r ysgol i ganu can pared Dewi Sant gyda'r disgyblion. Bydd y pared yn digwydd ym Mhwllheli ar y 25ain o Chwefror. Dewch yn llu! Cliciwch yma i weld lluniau ac i weld fidio o'r plant yn canu'r gan.



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Bore yng nghwmni plant y cylch meithrin

Daeth plant cylch meithrin Morfa Nefyn am dro i'r ysgol gydag Anti Emma, Anti Eira ac Anti Bethan. Roedd y plant wrth eu boddau yn ymwneud â'r gweithgareddau amrywiol a phlant blwyddyn Derbyn ac 1 a phlant hynaf yr ysgol wedi mwynhau eu cwmni. Bore difyr iawn! Cliciwch yma i weld mwy o luniau



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Owen Edwards

Daeth John Dilwyn Jones o’r archifdy yng Nghaernarfon i drafod celfi cegin Oes Owen Edwards. Dysgodd y plant am draddodiad golchi dillad a phwysigrwydd tân i goginio a sychu dillad. Cliciwch yma i weld mwy o luniau



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Cofia ddweud. Cadwa’n ddiogel!

Daeth aelod o wasanaeth NSPCC i’r ysgol i rannu gwybodaeth bwysig gyda’r disgyblion ynglyn a bod yn ddiogel rhag niwed a sut i gael cymorth os oes ganddynt unrhyw bryderon. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y rhaglen ewch i wefan NSPCC sef nspcc.org.uk/schools



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Santes Dwynwen

Bum yn dathlu diwrnod Santes Dwynwen yn yr ysgol ar y 25ain o Ionawr. Bu’r plant yn ymwneud â llawer o weithgareddau difyr gan gynnwys disgo Santes Dwynwen a gêm ‘Sion a Sian’ i gloi’r dydd. Llongyfarchiadau i Cian ac Ania o flwyddyn 3 am ennill y gêm. Gwisgodd y plant ddillad parti i ddod i’r ysgol gan dalu £1 yr un. Penderfynodd y Cyngor ysgol roi’r arian a gasglwyd tuag at elused CHD.

plant

Cyngerdd Nadolig

Sinderela oedd ein sioe Nadolig eleni a chafwyd perfformiad arbennig gan y plant. Diolch i'r rhieni, staff yr ysgol ac aelodau o'r llywodraethwyr am eu cymorth. Mae DVD o'r cyngerdd ar gael i'w brynu yn yr ysgol am £5. Cliciwch yma i weld lluniau o'r plant yn perfformio.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Siarter iaith

Derbyniodd y Cyngor Ysgol dystysgrif 'gwobr aur' gan siarter iaith Gwynedd am eu hymroddiad o hybu'r Gymraeg yn yr ysgol, gyda rhieni a'r gymuned. Llongyfarchiadau!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Ymweld ag Amgueddfa Lloyd George

Bu plant blwyddyn 2 a 3 yn ymweld ag Amgueddfa Lloyd George ar Ddydd Iau, 24ain o Dachwedd i ddysgu am ddathliadau'r Nadolig yn Oes Fictoria. Bu iddynt ddysgu am yr ysgol a'r 'Welsh not'. Cawsom wneud pwdin Nadolig traddodiadol a chreu addurn Nadoligaidd i'w roi ar goeden Nadolig. Lwcus iawn! Diolch i'r staff i gyd am ddiwrnod diddorol tu hwnt! Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Adeiladu lloches i'r Draenog

Daeth Robert sydd yn gweithio i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol draw i'r ysgol i ynwneud â gweithgareddau tymor yr Hydref gyda plant blwyddyn Meithrin, Derbyn ac 1. Cawsom llawer o hwyl yn dysgu am yr anifeiliaid sydd yn cysgu dros y Gaeaf a bum yn brysur yn adeiladu ty i'r draenog bach. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Plant mewn angen

Casglodd y Cyngor Ysgol £89.02 tuag at elusen plant mewn angen eleni. Bu i bawb dalu £1 i gael gwisgo dillad smotiog neu ddillad Pudsey i ddod i'r ysgol a bu'r plant yn addurno bisgedi i'w gwerthu. Cawsom gystadleuaeth gwneud llun o Pudsey. Dyma lun o'r ennillwyr sef un bachgen ac un merch o bob dosbarth gyda eu gwobr. Diolch i'r rhieni am eu cyfraniad. Cliciwch yma i weld yr holl luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Ffair Nadolig

Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi ein Ffair nadolig. Gwnaeth y gymdeithas rieni elw o £1186, swm arbennig! Diolch i rieni, staff yr ysgol ac aelodau o'r llywodraethwyr am helpu a diolch o galon i Sion Corn am alw draw i wrando ar y plant yn canu.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Clwb Dwylo Prysur

Mynychodd pawb o flwyddyn Derbyn ac 1 y clwb dwylo prysur yr wythnos hon, ble bum yn ymwneud â gweithgareddau difyr i ddatblygu sgiliau echddygol mân y plant. Rydym yn edrych ymlaen yn barod at weithgareddau yr wythnos nesaf. Cliciwch yma i weld lluniau o'r plant yn mwynhau y gweithgareddau. Cliciwch yma i weld yr holl luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Dysgu am ddathliadau Diwali

Bu dosbarth blwyddyn Meithrin, Derbyn ac 1 yn dysgu am ddathliadau'r Diwali yr wythnos hon. Dysgom lawer o wybodaeth am India gan gymharu crefydd Hindwaeth gyda ein crefydd ni. Aethom ati i wneud gwaith map am India, darllen a deall gwybodaeth newydd, defnyddio sbeisys indiaidd i beintio patrymau rangoli ac addurno patrymau Mehndi gan ddefnyddio purplemash. Gwnaeth pawb lantern Diwali i fynd adref gyda hwy i ddysgu mai 'Gwyl y Goleuni' yw Diwali. Cliciwch yma i weld yr holl luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
plant

Gweithgareddau'r Hydref ym Mhlas yn Rhiw

Bu disgyblion blwyddyn Derbyn a blwyddyn 1 ym Mhlas yn Rhiw yn cymryd rhan mewn gweithgareddau'r Hydref gyda Robert o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cawsom ddiwrnod difyr yn dysgu am y tymhorau, am goed yr Hydref ac am yr anifeiliaid sydd yn cysgu yn ystod y Gaeaf. Roedd y gweithgareddau yn hynod o ddiddorol. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
plant

Tatws!

O'r diwedd roedd y tatws yn barod! Ar ol Gaeaf caled nid oedd y tatws yn barod ym mis Gorffennaf eleni fel y llysiau eraill. Ond erbyn mis Medi roeddent yn barod i gael eu codi o'r pridd. Cliciwch yma i weld lluniau o blant blwyddyn 2 a 3 wrthi'n brysur yng ngardd yr ysgol ac yn gwerthu'r tatws i rieni.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
plant

Sialens ddarllen yr Haf

Dyma lun o bawb a lwyddodd yn sialens ddarllen yr Haf eleni. Cafodd bawb oedd wedi mynychu'r llyfrgell i ddarllen 6 llyfr yn ystod gwyliau'r Haf dystysgrif a medal i'w llongyfarch. Da iawn chi!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
plant

Gwobr ansawdd Ysgol iach

Mae'r ysgol bellach wedi derbyn gwobr ansawdd gan gynllun ysgolion iach Gwynedd am ein gwaith caled i sicrhau ein bod yn ysgol iach. Cafodd yr ysgol asesiad ym mis Gorffennaf 2016 cyn derbyn y wobr. Daeth Keith Parry, Swyddog Addysg ardal Dwyfor ac Ann Hughes sydd yn gweithio i gynllun ysgolion iach Gwynedd i'r ysgol i gyflwyno y plac newydd. Cawsom fore difyr yn gwrando ar Gareth Davies yn siarad am ei brofiad yn rhedeg marathon Paris 2015. Ymunodd gyda'r plant ar y cae i redeg milltir yn y 'Clwb dal i fynd'.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Diwrnod Owain Glyndŵr

Bum yn dathlu diwrnod Owain Glyndŵr yr wythnos hon, i gofio fod yr arwr wedi ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru ar 16eg o Fedi 1400. Daeth pawb i'r ysgol mewn gwisg oedd yn cynrychioli lliwiau Cymru a bum yn dathlu ein cymreictod a dysgu am ein harwr drwy ymwneud â llawer o weithgareddau difyr yn ystod y dydd.

 

plant

Presenoldeb

Dyma lun dau ddisgybl a lwyddodd i gael presenoldeb o 100% yn ystod y flwyddyn academaidd 2015-16. Mae hyn yn arbennig! Derbyniodd y ddau wobr gwerthfawr i ddathlu eu llwyddiant.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Cerdded i'r ysgol

Dyma luniau o'r disgyblion oedd wedi cerdded i'r ysgol o leiaf tair gwaith yr wythnos yn ystod tymor yr Haf 2016. Ymdrech arbennig a diolch i'w rhieni am gefnogi'r cynllun.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Coeden Gellygen

Hoffai plant a staff yr ysgol ddymuno pob lwc i’r ddwy ddisgybl yma yn eu hysgol newydd. Diolch i’r ddwy ohonynt am y goeden gellygen sydd bellach wedi ei phlannu yn ardd yr ysgol.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Y ddawns diwedd Tymor

Cliciwch yma i weld lluniau o’r ddawns diwedd tymor a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Pentref gan y gymdeithas rieni. Roedd pawb werth eu gweld yn eu dilladau crant wrth ffarwelio â Blwyddyn 3. Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Rhaglen ‘Astra’

Llongyfarchiadau i’r 4 plentyn yma a gafodd eu dewis i fynd ar raglen newydd Cyw o’r enw Astra. Cafodd y 4 ohonynt fore difyr yn ffilmio yn Cibyn Caernarfon.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Sialens ddarllen yr Haf

Bu Nia o’r Llyfrgell draw yn yr ysgol yn cyflwyno Sialens ddarllen yr Haf i’r plant. Enw’r sialens eleni yw ‘Darllen Mawr Direidus’ gan bod y llyfrgelloedd yn dathlu canmlwyddiant Roald Dahl. Bydd bob plentyn sydd yn mynychu’r llyfrgell dair gwaith yn ystod gwyliau’r Haf a benthyg 6 llyfr yn derbyn tystysgrif a medal. Ewch ati i ddarllen yn ystod y gwyliau!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Gweithgareddau ar y traeth

Ymunodd holl ddisgyblion yr ysgol gyda Laura, Robert a Fred o’r ymddiriedolaeth i ymwneud â llawer o weithgareddau difyr ar y traeth. Yn y bore, bum yn dysgu am adar sydd yn ymweld â’r traeth ac yn casglu bywyd gwyllt o’r pyllau dwr. Yn y prynhawn ymunodd y plant meithrin yn yr hwyl. Cafodd pawb doddi ‘marshmallows’ a chreu popcorn o flaen y tân a chwarae gemau amrywiol. Daeth môr-leidr caredig i gyfarfod y plant i ganu caneuon difyr oedd yn llawn hanesion am ei fywyd ar y môr. Cliciwch yma i weld lluniau o bawb yn mwynhau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Diwrnod Môr-ladron

Wrth gyrraedd diwedd y tymor a diwedd thema môr-ladron daeth plant blwyddyn Meithrin, Derbyn ac 1 i’r ysgol wedi gwisgo fel môr-ladron. Cafodd pawb flasu ffrwythau trofannol amrywiol gan gynnwys pinafal a mango cyn eu defnyddio i greu diod trofannol blasus. Yn yr ardal hydrin, bu’r plant yn defnyddio jeli glas ac orennau i wneud llongau môr-ladron ac yn yr ardal dwylo prysur bu iddynt greu mwclis gan ddefnyddio ‘cheerios’. Aeth pawb ati i wneud map trysor gan farcio ble mae’r trysor yn cuddio gyda chroes goch. Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Casglu sbwriel ar y traeth

Fel rhan o thema ‘llygredd ac ailgylchu’ mewn gwersi Gwyddoniaeth, bu Blwyddyn 2 a 3 yn casglu sbwriel ar y traeth ym Morfa Nefyn gyda Catrin Glyn o gadwraeth arfordir Llyn a’r Sarnau. Yn ein gwersi y tymor hwn rydym wedi bod yn dysgu am effaith llygredd ar ein hamgylchedd gan gynnwys creaduriaid y môr. Llwyddom i gasglu llawer o sbwriel ar y traeth. Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Lois Llywelyn

Daeth Lois Llywelyn i’r ysgol i ddangos y fedal ddrama a dderbyniodd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint 2016. Mae Lois yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Morfa sydd bellach yn 18 oed ac yn fyfyrwraig Lefel A yng Ngholeg Meirion-Dwyfor. Bu’n siarad efo’r disgyblion am ddylanwad ei haddysg a’r iaith Gymraeg ar ei llwyddiant. Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Plas Heli

Bu Blwyddyn 3 yn Mhlas Heli ym Mhwllheli yn dysgu sgiliau hwylio. Er y tywydd gwlyb, cawsom ddiwrnod i’r brenin. Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Alun yr Arth

Crys Newydd Alun yr Arth

Hoffai Alun yr Arth ddiolch i Cynan, Enfys a Caio am ei grys Cymru newydd. Mae'n edrych ymlaen yn arw i'w wisgo i gefnogi ein gwlad nos Fercher. Pob lwc Cymru!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

girl selling lettuce

Gwaith Celf ar y Traeth

Bu Blwyddyn Derbyn ac 1 ar y traeth ym Morfa Nefyn yn gwneud gweithgareddau Celf. Rydym wedi bod yn dysgu am waith yr artist Andy Goldsworthy yn y dosbarth a bum yn efelychu ei waith drwy ddefnyddio amrywiaeth o bethau naturiol oedd i'w gael ar y traeth i greu lluniau a phatrymau. Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

girl selling lettuce

Trip ysgol

Bum yn Sw Môr Môn fel trip ysgol diwedd blwyddyn gan fod y ddau ddosbarth wedi bod yn dysgu am greaduriaid y môr yn ystod tymor yr Haf. Cawsom ddiwrnod hynod o ddifyr yn gweld amrywiaeth o greaduriaid gwahanol gan ddysgu gwybodaeth newydd am bob un. Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

geneth yn gerthu letys

Gwerthu Llysiau

Wel roedd y clwb garddio yn llwyddiant eto eleni a'r cynnyrch wedi tyfu yn arbennig! Bu Blwyddyn 2 a 3 yn codi'r letys yr wythnos hon a Menter Morfa, cwmni busnes blwyddyn 3, yn eu gwerthu i rieni yn y giat. Byddwn yn defnyddio'r elw i brynu mwy o hadau a llysiau yn y clwb garddio y flwyddyn nesaf. Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Patrobas

Patrobas

Cawsom y pleser o groesawu grwp Patrobas i’r ysgol heddiw i ganu amrywiaeth o ganeuon Cymraeg gan gynnwys ‘Fflat Huw Puw’. Ymunodd y rhieni yn yr hwyl. Gan fod Carwyn sydd yn chwarae’r drymiau i’r grwp yn gyn-ddisgybl yn yr Ysgol roedd y Cyngor Ysgol wedi ei ebostio yn gofyn iddo ddod i’r ysgol. Yn ystod y prynhawn bum yn edrych ar luniau a fidios o Carwyn yn fachgen ifanc yn ysgol Morfa yn perfformio ar y llwyfan mewn cyngherddau. Edrychom hefyd ar DVD ohono yn actio mewn cyfres deledu a rhaglen ‘Cyw’. Siaradodd am ei yrfa fel cerddor erbyn hyn a’i fryd i fod yn dechnegydd. Mae hyn i gyd yn profi ei fod yn gallu cynnal ei fywoliaeth fel perfformiwr yn yr iaith Gymraeg. Yn ogystal, bu i Yestin Tyne ddod a’i goron a ennillodd am ysgrifennu rhyddiaith yn Eisteddfod yr Urdd y Fflint eleni. Cliciwch yma i weld lluniau o bawb yn mwynhau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Rhedeg noddedig

Rhedeg noddedig

Diolch yn fawr i bawb a ddaeth i gefnogi’r ysgol drwy ymuno yn y rhedeg noddedig ar draeth Morfa Nefyn. Roedd pawb wedi gwneud ymdrech arbennig i wisgo gwisg ffansi! Trefnodd yr ysgol y ras noddedig i gasglu arian ar gyfer gallu prynu mwy o offer cyfrifiadurol i’r dosbarthiadau. Cliciwch yma i weld lluniau o wisgoedd ffansi bob teulu. Gwych!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Ailgylchu

Ailgylchu

Bu Gwenllian, swyddog ailgylchu draw yn yr ysgol yn dysgu am bwysigrwydd ailgylchu gyda disgyblion Blwyddyn 2 a 3. Maent wedi bod yn dysgu am effaith llygredd ar ein hamgylchedd mewn gwersi Gwyddoniaeth y tymor hwn, gan bwysleisio fod llygredd yn cael effaith ddifrifol ar greaduriaid y mor. Cliciwch yma i weld lluniau o’r gweithgareddau difyr.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Siarter iaith

Siarter iaith

Bu i’r Cyngor Ysgol roi cyflwyniad ‘Siarter iaith’ i rieni yr wythnos hon. Yn y cyflwyniad roeddent yn pwysleisio pa mor lwcus ydym ni o gael dwy iaith. Dwy iaith...dwywaith y dewis! Dangosodd y Cyngor luniau o’n gweithgareddau yn yr ysgol eleni sydd wedi datblygu yr iaith Gymraeg ymhellach.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Kerbcraft

Daeth Catrin, Swyddog Diogelwch y ffyrdd i’r ysgol i ymwneud a chynllun kerbcraft gyda’r plant. H.y. Dysgu’r plant am reolau’r ffordd fawr gan fynd a hwy allan i’r pentref a sgiliau pwysig. Cliciwch yma i weld lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Porthdinllaen

Gwyl Fwyd Mor Porthdinllaen

Cynhaliwyd y Gwyl Fwyd Mor eto eleni yn nhraeth Porthdinllaen. Gwahoddwyd y plant i agor y diwrnod a chanu caneuon traddodiadol am y mor. Canmolwyd eu hymdrech a mynegodd ambell un mae’r plant oedd uchafbwynt y dydd. Casglodd y Gymdeithas rieni £154.60 drwy werthu cacannau ar y diwrnod. Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Cyswllt gyda'r Cylch Meithrin

Bu plant Blwyddyn Derbyn ac 1 am dro i'r Cylch meithrin i gyd-chwarae unwaith eto gyda'r plant. Hoffem ddiolch yn fawr am y croeso cynnes a gawsom gan y staff a'r plant yn ystod y bore. Bu i blant yr ysgol ymuno yn sesiwn 'amser cylch', sesiwn canu a gweithgareddau ardaloedd dysgu y cylch meithrin. Roedd pawb wedi mwynhau yn arw a cawsom dreulio ychydig o amser yn y parc cyn cerdded yn ôl i'r Ysgol. Cliciwch yma i weld lluniau o weithgareddau'r bore. Rydym yn edrych ymlaen i groesawu'r plant newydd i'r ysgol yr wythnos nesaf yn ystod y diwrnod trosglwyddo dosbarthiadau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Gwasanaeth

Bu Nia Williams yn yr ysgol yn darllen stori o'r Beibl i'r plant. Cafodd y plant gyfle i chwarae rol i wneud y stori yn fyw wrth ddysgu am bwysigrwydd 'maddau'. Daeth a Lewis ei ffrind gyda hi, roedd y plant wrth eu boddau!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Clwb garddio Blwyddyn Derbyn ac 1

Diolch yn fawr i'r holl rieni a ddaeth a hen esgidiau glaw i'r ysgol ar gyfer y Clwb garddio. Cawsom llawer o hwyl yn plannu blodau lliwgar ynddynt i addurno ein hardal tu allan. Bum yn peintio cerrig i greu trychfilod lliwgar ac yn addurno darnau o goed. Cliciwch yma i weld lluniau o weithgareddau'r clwb garddio, gan gynnwys y potiau berw dwr fydd yn gwneud i wynebau y plant edrych yn ddigri iawn ar ol tyfu!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Y Clwb garddio

Roedd y Clwb garddio yn llwyddiannus iawn eto eleni. Mynychodd bob plentyn o flwyddyn 2 a 3 i ddysgu sgiliau garddio newydd gan gynnwys palu, chwynnu a phlannu. Rydym wedi plannu blodau lliwgar i wneud yr ardal tu allan yn ddeiniadol ac wedi plannu llysiau amrywiol. Cliciwch yma i weld lluniau o’r gwaith caled!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Wythnos gerdded i’r ysgol Mai 2016

Gwahoddwyd Carys Ofalus draw i’r ysgol unwaith eto gan y Cyngor Ysgol. Bu iddi atgoffa’r plant o reolau’r ffordd fawr cyn i’r cyngor ysgol eu hannog i gerdded i’r ysgol bob dydd. Cerddodd holl staff yr ysgol, y disgyblion a swyddog diogelwch y ffordd daith fer o amgylch y pentref i’r ysgol fore Llun i annog pawb i barhau yn ystod y tymor. Cafodd pawb frecwast blasus ac iachus ar ol cyrraedd yn ol i’r ysgol. Bydd y Cyngor Ysgol yn cadw cofrestr o bawb sydd yn cerdded i’r ysgol bob dydd ac yn gwobrwyo ar ddiwedd y tymor. Cliciwch yma i weld lluniau o’r bore cyntaf.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Bore yng Nghwmni plant y Cylch meithrin

Daeth plant y cylch meithrin am dro i’r ysgol gyda Anti Emma, Anti Eira ac Anti Bethan. Treuliodd y plant y bore yn nosbarth Miss Ferris gyda plant blwyddyn Derbyn ac 1 yn cyd-chwarae yn yr ardaloedd dysgu tu fewn a thu allan i’r dosbarth. Cliciwch yma i weld lluniau o’r bore difyr!

plant

Gala nofio

Dydd Gwener, 15ed o Ebrill, mynychodd saith o ddigyblion Blwyddyn 2 a 3 y gala nofio yn y Ganolfan Hamdden. Roeddent yn cynrychioli Ysgol Morfa Nefyn a hoffwn longyfarch bob un ohonynt am gystadlu a rhoi o’u gorau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Presenoldeb Tymor y Pasg

Llongyfarchiadau i'r holl ddisgyblion yn y llun hwn am gael canran presenoldeb 100% drwy fynychu'r ysgol bob dydd yn ystod Tymor y Pasg! Da iawn chi!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Eisteddfod

Dyma lun tri plentyn oedd yn llwyddiannus yn Eisteddfod Sir Eryri ym Mangor ym mis Mawrth. Llongyfarchiadau mawr iddynt a phob lwc i Eiri yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Fflint.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Coleg y Bala

Cafodd plant yr ysgol ddiwrnod arbennig yng Ngholeg y Bala. Buom yn dysgu am stori'r Pasg ac ymwneud a llawer o weithgareddau difyr ac ymarferol. Diwrnod gwerth chweil!

Cliciwch yma i gael blas o'r diwrnod.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Rhaglen Cyw

Daeth Elain Llwyd o gwmni Antena, Cibyn, Caernarfon i gynnal gweithdy gyda phlant blwyddyn 2 a 3. Bydd hi yn dewis 4 plentyn o ysgolion drwy Gymru i ffilmio rhaglen newydd sbon gan Cyw. Pob lwc i bawb!

Cliciwch yma i weld lluniau o'r gweithdy.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Diwrnod Dim Ysmygu

Roedd Dydd Mawrth, 9fed o Fawrth yn ddiwrnod ‘Dim ysmygu’. Bu Blwyddyn 2 a 3 yn dysgu am beryglon ysmygu a’i effaith ar y corff. Aethant ati i lunio posteri i atgoffa’r gymuned am bwysigrwydd peidio ysmygu. Gan ein bod yn ‘ysgol iach’, mae’r plant wedi arddangos rhai o’r posteri yng ngiatiau’r ysgol.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Anno's Affrica

Yn dilyn gwisgo coch ar ddydd Gwyl Dewi i gasglu arian, cyflwynodd y Cyngor Ysgol siec o £41 i elusen Anno's Affrica. Daeth Joy Brown i'r ysgol i dderbyn y siec. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i brynu dillad ysgol ar gyfer plentyn yn y 'slums' yn Affrica.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Fu’s yng Nghaernarfon

Fel rhan o thema Blwyddyn newydd Tseina, bu plant blwyddyn Derbyn, 1,2 a 3 yn Fu’s yng Nghaernarfon. Bwyty Tseiniaidd yw Fu’s a cafodd y plant ginio bendigedig yn blasu bwydydd Tseiniaidd amrywiol. Gwelodd y plant y cogyddion yn y gegin yn paratoi’r bwyd a dysgodd perchennog y bwyty iddynt sut oedd defnyddio ‘chopsticks’. Cawsom llawer o hwyl yn trio eu defnyddio wrth fwyta llond ein boliau! Cliciwch yma am fwy o luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Diwrnod y Llyfr

Gwisgodd plant Blwyddyn 2 a 3 fel cymeriad o chwedl gymreig i ddod i’r ysgol a phlant blynyddoedd meithrin, derbyn ac 1 fel cymeriad o’i hoff lyfr. Cawsom sioe ffasiynau yn y caban ble roedd pawb yn trafod eu cymeriad a’r stori cyn mynd ati yn y dosbarth i ysgrifennu am ein cymeriadau. Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Dydd Gwyl Dewi

Gwisgodd y plant wisg cymreig I ddod i'r ysgol I ddathlu Dydd Gwyl Dewi. Bum yn gwrando ar straeon am Dewi Sant, yn ymwneud a gwaith celf a dysgu ei neges bwysig sef “gwnewch y pethau bychain”. Cawsom eisteddfod Gwyl Ddewi yn y Ganolfan ble bu’r disgyblion yn canu caneuon traddodiadol cymreig ac yn llefaru i’w rhieni a’r gymuned. Cafodd bawb gacen gri a phaned. Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Gwasanaeth Tan

Bu Lance o’r gwasanaeth tan yn yr ysgol yn trafod diogelwch tan gyda’r disgyblion. Dysgodd bawb am stori cymeriad o’r enw Tanni yn rhoi y ty ar dan mewn damwain. Bum yn edrych ar amrywiaeth o luniau o ystafelloedd ein cartrefi gan geisio adnabod y perygl ymhob llun. Cafodd rhai o’r plant wisgo dillad dyn tan. Cliciwch yma am fwy o luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Siarter iaith

Cafodd y plant brynhawn arbennig yng nghwmni Gwilym Bowen Rhys yn canu caneuon gwerin cymreig. Roedd pawb wrth eu boddau yn canu ac yn dawnsio. Bydd Gwilym yn y pared Dewi Sant ym Mhwllheli ddydd Sadwrn. Bydd y plant yn cael cyfle i gymryd rhan yn y pared i ddathlu Gwyl Ddewi cyn ymuno gydag ef ar y llwyfan i ganu.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Prosiect Gwellt y môr

Bu plant yr ysgol yn treulio diwrnod ar y traeth ym Mhorthdinllaen gyda aelodau o brosiect ‘Gwellt y môr’. Bwriad y cynllun yw ennill cystadleuaeth er mwyn cael creu gweithgareddau ar y traethau lleol i hybu ymwybyddiaeth plant ifanc am fywyd y môr. Dewiswyd plant ysgol Morfa i gael eu ffilmio gan gwmni ITV i greu hysbyseb ar gyfer y gystadleuaeth. Pob lwc i’r prosiect a diolch am ddiwrnod llawn hwyl ar y traeth. Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

child

Elusen CHD

Cefnogodd yr ysgol elusen CHD eto eleni. Penderfynodd y Cyngor Ysgol ofyn i bob plentyn gyfrannu £1.50 i gael gwisgo dillad coch neu ddillad gyda chalonau arnynt i ddod i’r ysgol. Yn ystod y dydd, bum yn coginio crempogau siap calon ac yn dyfalu enw’r ci bach tegan. Dyma lun o’r plentyn oedd wedi llwyddo i ddyfalu mai Twm oedd enw’r ci. Bu rhaglen S4C yn yr ysgol yn ffilmio’r plant yn cynnal y gweithgareddau i godi arian a roeddent ar ‘Newyddion 9’ y noson honno. Cliciwch yma i weld lluniau o’r gweithgareddau a cofiwch fynd i raglen ‘S4C Clic’ i wylio’r rhaglen. Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

policeman

PC Owen

Bu PC Owen yn yr ysgol yn sgwrsio gyda’r plant am ei waith. Trafodwyd ‘Diogelwch y We’ gyda blynyddoedd 2 a 3 a phwysigrwydd “Paid cyffwrdd Dweud” gyda sylweddau gyda blwyddyn Meithrin, Derbyn ac 1.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children

Y Fari Lwyd

Bu Mair Tomos Ifans draw yn yr ysgol yn dysgu'r plant am draddodiadau cymreig y Flwyddyn Newydd. Cawsom ddiwrnod llawn hwyl o greu'r Fari Lwyd gyda rubannau lliwgar, dysgu am ei hanesion a dysgu caneuon newydd. Ar ddiwedd y prynhawn, daeth y rhieni ar iard yr ysgol i weld y plant yn perfformio gyda'r Fari Lwyd. Mae'r thema wedi cael ei pharhau yn nosbarth Blwyddyn 2 a 3 gyda llawer o weithgareddau llythrennedd a rhifedd amrywiol. Cliciwch yma i weld y lluniau!

merch

Nadolig Oes Fictoria

Bum yn Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy yn dysgu am Nadolig yn Oes Fictoria ac yn gwisgo fel plant oedd yn byw yn y cyfnod. Cafodd y plant gyfle i wneud pwdin Nadolig yn y gegin yn hen gartref Lloyd George a dysgu y gwahaniaeth rhwng ein cartref ni heddiw a chartrefi ers talwm. Bu i bawb fynychu yr hen ysgol a aethom ati i greu addurniadau Nadolig Oes Fictoria gyda'r athrawes. Diwrnod llawn profiadau a hwyl! Cliciwch yma i weld y lluniau!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Cystadleuaeth Gymnasteg 2015

Diolch i'r tim gymnasteg eleni am gynrychioli'r ysgol yn y gystaldeuaeth yng Nghaernarfon. Roedd y saith ohonynt yn arbennig o dda, ac maent wedi gweithio yn galed iawn yn ystod y tymor hwn i ymarfer gan fynychu clwb ar ol ysgol ddwywaith yr wythnos! Derbyniodd bob un ohonynt dystysgrif am eu llwyddiant. Cliciwch yma I weld lluniau ohonynt yn y gystaleuaeth.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Plant mewn Angen

Diolch i bawb am gyfrannu mor hael tuag at gronfa plant mewn angen eto eleni. Llwyddodd yr ysgol i gasglu cyfanswm o £110.66. Gwych! Daeth pawb i’r ysgol wedi gwisgo fel eu harwyr/arwres. Gwnaeth bawb lun o’i arwyr ar gyfer y gystadleuaeth ac ysgrifennodd Blwyddyn 2 a 3 ddisgrifiad ohono/ ohoni.

Bu’r plant yn brysur yn addurno bisgedi smotiog yn ystod y dydd a bu Menter Morfa (cwmni busnes Blwyddyn 3) yn eu gwerthu i’r plant yn ystod amser chwarae ac yng ngiat yr ysgol am 3 o’r gloch. Dyma lun o ennillwyr y gystadleuaeth, llongyfarchiadau! Cliciwch yma i weld mwy o luniau o weithgareddau’r dydd.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Gwobrwyo Siarter Iaith

Bu Cyngor Ysgol Morfa Nefyn mewn seremoni gwobrwyo siarter iaith yn Ysgol Glan y Mor. Derbyniodd yr ysgol wobr aur am eu gwaith caled i ddatblygu'r siarter iaith Gymraeg yn yr ysgol. Da iawn!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cooking Club

Llyfrgell

Llongyfarchiadau i’r plant sydd wedi llwyddo i gwblhau sialens Darllen yr Haf - ‘Torri pob record’ yn y Llyfrgell leol dros yr haf. Er mwyn llwyddo, roedd angen i bawb fynychu’r llyfrgell dair gwaith yn ystot gwyliau’r Haf a darllen chew llyfr. Derbyniodd y plant dystysgrif a medal a daeth Dewi Wyn i’r ysgol i dynnu eu lluniau ar gyfer y papur lleol.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children


Gwasanaeth Diolchgarwch

Codwyd swm anhygoel o £301.14 ar gyfer elusen ‘Mwy o arian at dlodi’ yn y Gwasanaeth Diolchgarwch eleni. Gwnaeth y plant fuwch gan ddefnyddio carton llefrith ac aethant a hi adref i gasglu arian ynddi fel cadw-mi-gei. Mae hyn yn ddigon o arian i brynu dwy fuwch ar gyfer teulu tlawd yn Affrica. Diolch i bawb am eu cyfraniad. Mae CD Gwasanaeth Diolchgarwch ar werth yn yr ysgol am £3.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cooking Club

Ymweliad gan Gwenda o’r Amgueddfa

Bu Gwenda sydd yn gweithio yn Amgueddfa Lloyd George Llanystumdwy draw yn ysgol yn dysgu plant blwyddyn Derbyn ac 1 am ddiwrnod golchi ers talwm. Dysgodd y plant enwau yr offer golchi dillad oedd ganddi a bum yn eu defnyddio yn y ty bach twt yn ystod y thema ‘diwrnod golchi’. Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

children


Castell Cricieth

Bu disgyblion blwyddyn 2 a 3 yng Nhastell Cricieth ar gychwyn y tymor gan eu bod yn dilyn thema ‘Llywelyn Ein Llyw Olaf’. Bu’r plant yn cerdded i fyny’r llwybrau troellog serth ac yn dysgu am 4 ac 8 pwynt y cwmpawd gan fwynhau yr olygfa oedd i’r Gogledd, De, Gorllewin a’r Dwyrain. Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Y Clwb Coginio

Y Clwb Coginio

Bu Mr Ali o Polash Pwllheli yn y clwb coginio yn creu bwydydd indiaidd gyda’r plant. Dysgodd pawb am ei grefydd gan mai mwslim yw Mr Ali a nid cristion. Bum yn cymharu y ddwy grefydd cyn mynd ati i greu samosas llysiau iachus. Cliciwch yma i weld y lluniau!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cyngor Ysgol

Cyngor Ysgol newydd

Llongyfarchiadau i bump cynghorydd newydd Ysgol morfa Nefyn. Etholwyd y pump ohonynt Ddydd Gwener yn dilyn perfformiad yn rhannu syniadau a’i gweledigaeth o wella yr Ysgol gyda’r holl ddisgyblion. Mae ganddom gadeiryddes, trysorydd ac ysgrifenyddes. Maent wedi cychwyn ar eu gwaith yn barod trwy wahodd Carys Ofalus i’r ysgol i drafod diogelwch y ffyrdd ar gyfer eu prosiect cyntaf o annog y plant i gerdded i’r ysgol. Cliciwch yma i weld lluniau o’r etholiad.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Ymweliad Carys Ofalus

Ymweliad Carys Ofalus

Bu Carys Ofalus yn yr ysgol yr wythnos hon yn llongyfarch y plant am eu hymdrech i gerdded i’r ysgol yn ystod tymor yr Haf, yn ogystal ag atgoffa y disgyblion am ddiogelwch y ffordd. Roedd y sesiwn yn ddiddorol iawn! Cliciwch yma i weld mwy o luniau o’r ymweliad.

Gweithgareddau’r Haf

Gweithgareddau’r Haf yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor

Cliciwch yma i weld amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael yn y Ganolfan Hamdden ym Mhwllheli yn ystod gwyliau’r Haf, gan gynnwys sesiynau nofio am ddim.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Presenoldeb 2014-15

Presenoldeb 2014-15

Llongyfarchiadau i'r disgyblion hyn a lwyddodd i fynychu yr ysgol BOB dydd yn ystod y flwyddyn a chael presenoldeb o 100%. Arbennig! Dyma lun ohonynt gyda’i gwobr. Cliciwch yma i weld lluniau o’r disgyblion a lwyddodd i gael presenoldeb mwy na 95% a phresenoldeb mwy na 97%.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

logo

plant

Sialens ddarllen yr Haf!

Bu cynrychiolydd o’r llyfrgell draw yn yr ysgol yn cyflwyno sialens ddarllen yr haf i’r disgyblion.

Eglurodd mai ‘torri pob record’ yw’r thema eleni. Record ysgol Morfa Nefyn yw bod 18 o ddisgyblion wedi cwblhau y sialens yn ystod gwyliau yr haf 2014. Beth am guro hyn?
Yr unig beth sydd rhaid i chi ei wneud yw ymweld â’r llyfrgell 3 gwaith yn ystod y gwyliau a darllen 6 llyfr yn unig. Mae nifer o sticeri a gwobrau i’w casglu yn ystod y sialens a bydd bob plentyn sydd yn cwblhau yn derbyn medal. Mae ymaelodi am ddim ond yn ystod ein ymweliad i’r llyfgell yn ddiweddar rydym wedi sicrhau fod pob plentyn o ysgol Morfa Nefyn yn aelodau yn barod ac wedi cychwyn y sialens!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Dathlu 10 mlynedd o’r ‘Clwb Dal i Fynd’
Roedd Clwb Dal i fynd yn dathlu ei benblwydd yn 10 oed ar y 3ydd o Orffennaf. Fel ysgol iach sydd yn cefnogi’r cynllun drwy redeg milltir yn wythnosol i gadw’n iach ac yn ffit, roeddem yn awyddus i ddathlu! Penderfynodd y Cyngor Ysgol y byddai bob disgybl yn talu £1 ac yn gwisgo gwisg ffansi i redeg millltir yn ystod y diwrnod er mwyn casglu arian tuag at elusen ‘Ambiwlans Awyr’. Bu i bawb redeg milltir o amgylch lôn gefn Morfa Nefyn yn eu gwisgoedd amrywiol.

Llwyddodd y Cyngor Ysgol i gasglu £43 tuag at elusen ‘Ambiwlans Awyr’ ac mi gafodd bawb hwyl yn cadw’n heini! Daeth Gareth Davies, sef tad Ioan (blwyddyn 1) a Gwenan (Blwyddyn 3) i’r ysgol i siarad gyda’r disgyblion am ei brofiau o redeg marathon yn Ffrainc eleni. Eglurodd wrth y plant am bwysigrwydd cadw’n iach gan drafod sut yr oedd yn bwyta’n iach, yfed digon o ddwr bob dydd a chymeryd rhan mewn gweithgareddau corfforol.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Gwyl ‘Blas y môr’ ym Mhorthdinllaen
Cafodd disgyblion yr Ysgol eu gwahodd i ddiwrnod ‘Blas y môr’ ym Mhorthdinllaen ar Ddydd Sadwrn, 27 o Fehefin i berfformio caneuon Fflat Huw Puw. Roedd y traeth yn llawn o bobl lleol ac ymwelwyr a daeth pawb i wrando arnynt yn canu. Gwisgodd y plant hetiau a dillad glas a gwyn fel morwyr. Roedd llawer o weithgareddau difyr yn ystod y dydd ac roedd Cymdeithas Rieni yr Ysgol yn gwerthu cacennau. Diolch i rieni’r ysgol am goginio cacennau blasus a helpu’r gymdeithas rieni i wneud elw o £310!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Trip i Fferm y Foel a Pili Palas
Cafwyd diwrnod addysgiadol a llawn hwyl ar ein trip eleni. Yn dilyn dysgu am drychfilod yn y gwersi Gwyddoniaeth aeth Blwyddyn 2 a 3 i Pili Palas yn Ynys Mon . Gwelodd y plant amrywiaeth o drychfilod a chael cyfle i fynychu awyrgylch drofannol o blanhigion lliwgar a rhaeadrau ble roedd gloynnod byw annhygoel yn hedfan o'u hamgylch. Cliciwch yma i weld lluniau Blwyddyn 2 a 3.
Fel rhan o thema ‘Y Tri mochyn bach’ aeth Blwyddyn Derbyn ac 1 i Fferm y Foel yn Ynys Mon. Dysgodd y plant am fywyd y fferm a sut i ofalu am yr anifeiliaid o ddydd i ddydd. Bu iddynt gael eistedd ar gefn y trelar i fynd i fwydo’r ceffylau yn nghanol y cae yn ogystal a rhoi potel i’r wyn bach. Cliciwch yma i weld lluniau Blwyddyn Derbyn ac 1.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

BEICIO

Gwersi Beicio Blwyddyn 3
Daeth Cheryl, Swyddog Diogelwch y ffyrdd draw i'r ysgol i roi gwersi beicio i flwyddyn 3. Dysgodd y plant sgiliau newydd a sut i fod yn saff wrth feicio i'r ysgol. Rydym yn annog disgyblion i gerdded neu feicio i'r ysgol gyda'i rhieni yn ystod y tymor hwn er mwyn datblygu ein ffitrwydd a lleihau llygredd. Byddwn yn gwobrwyo y rhai sydd yn gwneud yn dda gyda chrys T Carys Ofalus ar ddiwedd y tymor. Cliciwch yma i weld lluniau o bawb yn mwynhau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Sul y Tadau

Sul y Tadau
Dyma ddau berfformiad i holl Dadau disgyblion ysgol Morfa. Mae Blwyddyn 2 a 3 wedi bod wrthi'n brysur yn rapio cerdd am Dad a Blwyddyn Derbyn ac 1 wedi creu cerdd i'w llefaru. Sul y Tadau Hapus! Mwynhewch eich diwrnod.
Cliciwch yma i wylio'r fidio.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Glynllifon

Glynllifon
Bu'r plant yn dysgu enwau blodau gwyllt, enwau coed amrywiol a thrychfilod yn y pwll gyda Swyn Spencer Swyddog Cyfoeth naturiol yng Nglynllifon. Buont yn pysgota am drychfilod y pwll a'u rhoi mewn potiau dwr gan ymchwilio i'w henwau. Aethpwyd ati i chwilio am amrywiaeth o flodau gwyllt hardd. Dysgwyn enwau rhai newydd i'r plant sef Rhyddlwyn y coed, Eidral, Glesyn y coed a melyn Mair. Sgwn i fedrwch chi adnabod y blodau yma yn y lluniau? Cliciwch yma.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Patagonia 150

Patagonia 150
Bu'r plant yn cymryd rhan yn dathlu Patagonia 150 yn ysgol Pentreuchaf ar y 6/6/15. Perffomiwyd can wreiddiol o'r enw 'Patagonia' gan Ms Nia Williams a oedd yn son am y Cymry yn mudo i Batagonia a chreu gwladfa yn o 150 o flynyddoedd yn ol! Bu i'r plant fwynhau symud i'r gan a gwisgo dillad Cymru ar y diwrnod. Yna mwynhau dysgu Sbaeneg, dawnsio Salsa, bwyta cig moch Oinc Oink a thynnu llun gyda Luned Parry yr artist.

Cliciwch yma I weld fidio o'r plant yn perfformio'r gan ar y llwyfan

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Blasu selsig Oinc Oink

Blasu selsig Oinc Oink
Bu Ela o gwmni Oinc Oink draw yn yr Ysgol yn dysgu'r plant am sut mae selsig yn cael eu gwneud. Cafodd y plant flasu selsig o wahanol flas a roedd bob blas yn flasus iawn! Dangosodd Ela luniau i'r plant o'r moch sydd ganddi, a thrafod sut i ofalu amdanynt ermwyn cael selsig llwyddiannus. Mae Cwmni Oinc Oink bellach yn gwerthu y selsig yn siop a garej Morfa Nefyn. Maent werth eu cael! Cliciwch yma i weld lluniau o'r plant yn mwynhau'r selsig.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Patagonia 150
Mae 150 o flynyddoedd bellach ers i’r Cymry fudo i Batagonia yn 1865. Bydd dathliad yn ysgol Pentreuchaf ar Ddydd Sadwrn y 6ed o Fehefin a bydd disgyblion blwyddyn 2 a 3 yn canu cân am Batagonia ar y diwrnod. Bum yn stiwdio Pant yr Hwch yn recordio’r gân ac mi fydd copiau o’r cryno ddisg ar werth ar y diwrnod am £5 yr un. Cliciwch yma i weld lluniau o’r plant yn mwynhau wrth recordio, yn ogystal â fidio ohonynt yn canu.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant Wythnos gerdded i’r ysgol 2015
Bum unwaith eto eleni yn cefnogi ‘Wythnos Gerdded i’r Ysgol’. Pwrpas yr wythnos yw hybu cerdded o safbwynt iechyd a gofalu am yr amgylchedd. Daeth Carys Ofalus draw i’r ysgol fore Llun i drafod diogelwch y ffordd gyda’r plant. Bore Mercher, cerddodd holl staff a phlant yr ysgol taith fer o amgylch y pentref i’r ysgol a cafodd pawb frecwast yn y caban ar ol gorffen. Cliciwch yma i weld lluniau o’r daith.

Bu i lawer o'r plant wneud ymdrech i gerdded i'r ysgol yn ystod yr wythnos, hyd yn oed yng nghanol y glaw trwm fore Llun! Dyma lun o'r holl ddisgyblion a lwyddodd i gerdded i'r ysgol bob bore. Llongyfarchiadau iddynt a diolch i'r rhieni am gefnogi! Mae’r Cyngor Ysgol wedi penderfyny parhau i wobrwyo plant sydd yn cerdded mwy na 3 gwaith yr wythnos yn ystod yr hanner tymor nesaf er mwyn annog pawb i gadw’n iach, i ofalu am yr amgylchedd ac i leihau traffig ar lôn yr ysgol am 3yp.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant a moch bach

Taith i weld y moch ym Mryn Bach
Bu Blwyddyn Meithrin, Derbyn ac 1 am dro i Bryn Bach yn Morfa Nefyn i weld y moch. Thema y dosbarth y tymor hwn yw stori’r ‘Tri Mochyn Bach’ ac fel rhan o’r thema byddwn yn dysgu mwy am foch. Hoffai’r plant ddiolch i Anti Victoria Priestley am rannu gwybodaeth difyr am yr anifail gyda hwy gan gynnwys sut i ofalu amdanynt o ddydd i ddydd. Cliciwch yma i weld lluniau o’r ymweliad.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Gweithgareddau’r Ganolfan Hamdden
Yn ystod y tymor hwn, mae plant Blwyddyn 2 a 3 yn cymeryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn y Ganolfan Hamdden. Erbyn diwedd y tymor bydd bob un ohonynt wedi cael sesiynau Caiacio yn y pwll, beicio yn yr unfan a dringo ar y wal ddringo yn y neuadd. Mae’r disgyblion wrth eu boddau ac yn gweithio’n galed iawn yn ystod y bore. Cliciwch yma i weld lluniau ohonynt yn mwynhau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Clwb Garddio

Cliciwch yma i weld ein lluniau yn garddio

 

 

plant

Presenoldeb llawn
Llongyfarchiadau i'r disgyblion hyn a lwyddodd i fynychu yr ysgol BOB dydd yn ystod tymor y Pasg. Gwych!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Anos Affrica
Bu Joy Brown a Dixon sef athro Celf o Affrica a gafodd ei fagu yn y slyms yn yr ysgol. Penderfynodd Dixon i greu bywyd da iddo ei hun drwy ddysgu sgiliau y celfyddydau. Bu'r plant yn ymwneud a gwaith Celf dan arweiniad Dixon yn yr Ysgol. Roedd hyn yn rhan o gefnogi elusen Anos Affrica. Daeth cwmni 'Heno' S4C a Elin Fflur y gantores a'r cyflwynydd draw i'r ysgol i ffilmio'r plant yn siarad am y profiad. Cliciwch yma i weld lluniau o'r diwrnod difyr!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

blodau

Diffyg yr haul
Dydd Gwener, 20fed o Fawrth, bu'r plant yn edrych ar ddiffyg yr haul am 9:15yb. Daeth amryw o'r plant a masgiau weldio gyda hwy er mwyn gallu ei wylio yn saff. Bu'r plant yn dynwared yr hyn a ddigwyddodd mewn grwpiau. Roedd un grwp yn dynwared yr haul, grwp arall yn dynwared y Ddaear a'r grwp arall yn dynwared y lleuad yn gorchuddio goleuni'r haul. Bu i bawb fwynhau y bore hanesyddol hwn gan gofnodi'r digwyddiad yn eu llyfrau llythrennedd fel ei fod ar gof a chadw. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Dydd Gwyl Dewi
Daeth y plant i’r Ysgol mewn dillad Cymreig traddodiadol neu ddillad coch i ddathlu dydd Gwyl Dewi. Bum yn dysgu am hanes Dewi Sant ac yn gwneud amrywiaeth o weithgareddau yn y dosbarth i gofio amdano. Bu’r disgyblion yn brysur yn helpu i goginio cacenni cri. Yn y prynhawn, cafwyd cyngerdd Gwyl Dewi yn y Ganolfan a roedd paned a chacen gri ar gael i bawb a fynychodd. Gwerthwyd pacedi o gacennau cri ar stondin gan Flwyddyn 3 ar ddiwedd y cyngerdd. Roedd bob ceiniog a gasglwyd yn y cyngerdd ac wrth werthu’r cacennau cri yn mynd tuag at BOBATH. Casglwyd £150. Diolch i bawb am eu cyfraniad.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Diwrnod y llyfr
Ar ddiwrnod y llyfr, daeth y disgyblion i’r ysgol wedi gwisgo fel cymeriadau o lyfrau traddodiadol a ‘straeon amser gwely’ e.e. y tri mochyn bach, Hugan fach goch, Eira Wen a.y.y.b. Cafodd pawb gyfle i gyflwyno eu cymeriad i weddill yr ysgol a dweud y stori yn fanwl. Bum yn ysgrifennu disgrifiad am ein cymeriadau yn y dosbarth a chreu nod tudalen ar gyfer eu llyfrau darllen. Roedd gwisg pawb yn edrych yn wych a diolch i’r rhieni am eu hymdrech!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

blodau

Sul y Mamau
Bum yn brysur iawn yn addurno potiau blodau a phlannu briallu yn anrheg Sul y Mamau i Mam eleni. Cawsom wybodaeth ddifyr iawn amdanoch fel mamau wrth sgwrsio gyda'r plant!

Cliciwch yma i glywed beth sydd gan eich plentyn i ddweud amdanoch!!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Elusen CHD

Llwyddodd disgyblion yr ysgol i gasglu £73.67 tuag at elusen ‘CHD’ (Coronary Heart Disease). Aethant ati i wisgo dillad coch i ddod i’r ysgol a chreu calonnau yn yr ardal Gelf a Chrefft i godi eu hymwybyddiaeth o’r elusen. Diolch i’r rhieni a’r staff am gyfrannu.

Cliciwch yma i weld lluniau o’i gweithgareddau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant

Siarter iaith - Comic Relief

Bydd plant Bl 2 a 3 yn ymddangos ar ‘Live Stream’ Comic Relief ar y 27ain o Chwefror. Bydd y rhaglen yn cychwyn am 9yh hyd at 12yh nos Sadwrn y 28ain o Chwefror! 27 awr i gyd! Ewch ar wefan Comic Relief i weld y recordiad yn fyw: comicrelief.com

Bydd y plant yn dysgu brawddegau yn y Gymraeg i ddyn o’r enw Connor!

Dyma enghraifft wych o ledaenu’r iaith Gymraeg i Brydain fawr gan blant bach Morfa Nefyn! Gwych! Bydd rhannau o’r recordio i’w gweld ar raglen y BBC o Comic Relief ar y 15ed o Fawrth. Croesi bysedd y byddant yn dewis plant Morfa!

 

 

siarter iaith

Gwobr arian Siarter iaith
Derbyniodd y Cyngor Ysgol wobr arian 'Siarter iaith' am eu gwaith caled i hybu'r iaith Gymraeg yn yr Ysgol. Llongyfarchiadau!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

PMA

Trip Nadolig
Bu'r plant yn gwylio panto o'r enw 'Patagonia' yng Nhricieth. Yna, cafwyd ginio yn y caffi yn Nhyddyn Sachau cyn ymweld a Sion Corn yn ei groto i'w atgoffa o'n rhestrau Nadolig. Cafwyd ddiwrnod i'r brenin! Cliciwch yma i weld y lluniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

PMA

Cystadleuaeth gerddi bwyd ysgolion
Llongyfarchiadau i’r plant! Bu’r ysgol yn llwyddiannus yng Nghystadleuaeth Gerddi Bwyd Gwynedd eleni. Cafodd y gystadleuaeth ei lawnsio gan Bartneriaeth Amgylcheddol Gwynedd er mwyn annog pobl a phlant i dyfu bwyd eu hunain gan gynnwys ffrwythau, llysiau neu berlysiau. Hoffai’r ysgol ddiolch i’r holl disgyblion a fu’n mynychu y clwb garddio i helpu i wneud ein gardd mor llwyddiannus. Y gwobr oedd tocynnau i’w gwario mewn ganolfan arddio. Mi fydd y wobr hon yn ddefnyddiol iawn yn ein clwb garddio nesaf yn nhymor y Gwanwyn.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

PMA

Ymweliad i Tesco Porthmadog
Yn ystod y tymor hwn, cafodd Blwyddyn 2 a 3 a dosbarth Blwyddyn Derbyn ac 1 gyfle i ymweld a’r archfarchnad TESCO ym Mhorthmadog fel rhan o’r cynllun ‘O’r fferm i’r fforc’. Yno, cafodd y plant weld y siop enfawr, gan gynnwys y storfa fwyd, yr oergell a’r rhewgell! Yn dilyn dysgu sut yr oedd y bara yn cael ei bobi a’i dorri, bu iddynt flasu’r bara yn ogystal a chaws amrywiol a ffrwythau. Cliciwch yma am fwy o luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

PMA

Castell Caernarfon
Bu Blwyddyn 2 a 3 yn ymweld a chastell Caernarfon i atgyfnerthu eu thema dosbarth ‘Y Rhyfel Byd 1af’. Cafodd y plant gyfle i wisgo a martsio fel milwyr yn ystod y Rhyfel Byd, a gweld amrywiaeth o arteffactau. Cliciwch yma am fwy o luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

PMA

Ymweliad gan Steve Jones
Bu tad Cadi Elen o Flwyddyn 2 yn yr ysgol yn dysgu mwy o wybodaeth i’r disgyblion am y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth a llawer o wrthrychau’r rhyfel gydag ef iddynt gael eu gweld. Gwisgodd llawer o’r plant helmed ddur a dangosodd rhai o’r bwledi. Cafwyd straeon diddorol dros ben am y rhyfel. Diolch iddo am yr ymweliad difyr!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

PMA

Amgueddfa Lloyd George
Bu disgyblion Blwyddyn Derbyn ac 1 yn Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy fel rhan o’i thema yn dysgu am Nadolig yn ystod Oes Fictoria. Cafwyd bore arbennig yn gwisgo fel plant Oes Fictoria, creu addurniadau Nadolig yn yr hen ysgol a gwneud pwdin Nadolig yn y bwthyn lle roedd Lloyd George yn byw yn fachgen ifanc. Roedd yn agored llygaid i’r plant a dysgwyd llawer o wybodaeth newydd. Cliciwch yma am fwy o luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
PMA

Plant mewn angen

Diolch i bawb a gyfrannodd tuag at gronfa Plant mewn angen. Llwyddodd y Cyngor Ysgol i gasglu £126.31 gyda chymorth yr holl ddisgyblion eraill a’r rhieni hael. Bu Blwyddyn 2 a 3 yn brysur iawn yn coginio cacennau blasus adref i’w gwerthu yn yr ysgol ac ymdrechodd pawb i wisgo gwisg melyn neu smotiog. Cafwyd gystadleuaeth creu mwgwd newydd i Pudsey a’r ennillwyr oedd Dylan Binch a Nanw Jones o flwyddyn 2 a 3 ac Ifan John ac Enfys Griffiths o flwyddyn Derbyn ac 1. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

diolch

Gwasanaeth Diolchgarwch

Casglwyd swm o £261.13 yn y gwasaneth Diolchgarwch eleni tuag at ymchwil Cancr y Fron. Diolch i bawb am ymdrechu drwy wisgo pinc yn ystod y gwasanaeth a diolch am roi mor hael. Bydd yr arian yn helpu tuag at brynu peiriant Biopsy newydd yn ysbyty Llandudno.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

bees

Diwrnod i’r gwenyn

Ar yr 17eg o Hydref, bu holl ddisgyblion yr ysgol yn brysur yn plannu bwlbiau ‘Clychau’r Gog’ ar dir yr Ysgol i gefnogi ‘diwrnod i’r gwenyn’. Derbynwyd dystysgrif gan y naturiaethwr Iolo Williams am helpu i wneud ein amgylchedd yn hardd. Rydym yn edrych ymlaen i weld y planhigion ‘Clychau’r Gog’ yn blodeuo yn nhymor y Gwanwyn.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

glynllifon

Glynllifon

Bu dosbarth Blwyddyn Derbyn ac 1 yn y goedwig yn Glynllifon yn gwneud llawer o weithgareddau i ddysgu am dymor yr Hydref. Roedd y diwrnod yng nghwmni Swyn Spencer o’r ymddiriedolaeth yn llawn gweithgareddau ymarferol difyr i atgyfnerthu thema’r dosbarth. Bu’r plant yn creu coron yr Hydref gan ludo amrywiaeth o hadau, dail a brigau ar y goron a chael ei gwisgo wrth gedded am dro drwy’r goedwig lliwgar. Aethant ati i chwilio am anifieliaid oedd yn cuddio yn y coed ac yna adeiladodd pob un ohynynt gartref addas i’r anifeiliaid i’w cadw’n gynnes a chlyd. Cliciwch yma am fwy o luniau.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

cooking

Y Clwb Coginio

Roedd y clwb coginio yn llwyddiannus iawn a diolch i bawb a fynychodd. Cafodd y plant amrywiaeth o brofiadau newydd a cyfleoedd i ddysgu llawer o sgiliau coginio sylfaenol. Aethant ati i goginio amrywiaeth o fwydydd gan gynnwys ‘salad cwscws gyda llysiau wedi eu rhostio a chaws ffeta’ a ‘pizza o wynebau doniol’. Cliciwch yma i weld lluniau o’r hwyl.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

ken

Ymweliad gan Ken Fitzpatrick


Daeth Ken Fitzpatrick, rheolwr Bad Achub Porthdinllaen i’r ysgol i wobrwyo’r disgyblion am ganu yn seremoni enwi’r Bad Achub newydd ym Mhorthdinllaen. Derbyniodd y plant grys T newydd a chylchgrawn ‘Pawb ar y Bwrdd’ i ddysgu’r plant am ddiogelwch y môr a gwaith y Bad Achub.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

seremoni enwi

Bad Achub Porthdinllaen


Ar ddydd Sul, 28ain o Fedi 2014, ymunodd plant Ysgol Morfa Nefyn yn y diwrnod hanesyddol arbennig ym Mhorthdinllaen. Roedd y diwrnod bythgofiadwy yn ddathliad fod y Bad Achub ym Mhorthdinllaen yn achub bywydau ers 150 o flynyddoedd. Yn ogystal, roedd y seremoni yn un i enwi'r Bad Achub newydd sef y 'John D Spicer' ac i gyflwyno y cwt newydd a adeiladwyd yn ddiweddar. Bu blynyddoedd 1, 2 a 3 yn canu caneuon J Glyn Davies gan gynnwys 'Fflat Huw Puw' i'r gwesteion pwysig. Roedd y plant yn lwcus iawn o gael bod yn rhan o'r seremoni hwn ac wedi mwynhau eu hunain yn arw! Cliciwch yma i weld lluniau o’r diwrnod difyr.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

reading

Sialens darllen yr Haf

Llongyfarchiadau i'r plant sydd wedi llwyddo i gwblhau sialens Darllen yr Haf, 'Chwilfa Chwedlau' yn y llyfrgell leol dros yr haf. Dyma lun ohonynt gyda'r tystysgrifau a'r medalau. Gwych!!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Creu dresel Gymreig gyda Luned Parri

Creu dresel Gymreig gyda Luned Parri

Fel rhan o weithgareddau’r Siarter iaith Gymraeg bu holl ddisgyblion yr ysgol yn brysur yn cyd-weithio gyda’r arlunydd Luned Parri i greu dresel Gymreig 3D ar gyfer Caban yr ysgol. Defnyddiwyd papur a chardfwrdd yn unig i greu y ddresel. Yna cafwyd gyfle i efelechu patrwm helyg oddi ar lestri mewn glas a gwyn a’u gludo ar blatiau a chwpannau’r ddresel.

Cliciwch yma i weld lluniau o’r broses brysur!

Daeth ein hysgol ar frig cyngrair Sbarci a Fflic ym mis Gorffennaf 2014.

Fel rhan o gynllun Sbarci a Fflic bu'r holl ddisgyblion a'r staff yn cyd-weithio i arbed ynni. Roedd y sgwad ynni yn y ddau ddosbarth yn brysur gyda'i cyfrifoldebau dyddiol ac yn dilyn hyn, llwyddodd yr ysgol i arbed 34.4% o'n defnydd trydan. Gwych! Daeth y cynghorydd Gareth Roberts (Aelod Cabinet dros yr amgylchedd) a Ffion o dim Sbarci a Fflic i wobrwyo'r plant gyda ipad newydd a thystysgrif.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Gwyl For

Gŵyl Fôr Porthdinllaen

Diolch yn fawr iawn i'r Gymdeithas Rieni am drefnu stondin gwerthu cacennau ar y traeth yn yr wyl Fôr ym Mhorthdinllaen. Diolchwn hefyd i Nanw Roberts, Nel Roberts, Nel Pritchard, Non Humphreys a Robin Humphreys a fu’n brysur yn creu bandiau lliwgar i’w gwerthu yno. Roedd y diwrnod yn un llwyddiannus dros ben a diolch i bawb a ddaeth i gefnogi. Gwnaethpwyd elw anhygoel o £350! Dyma lun o’r plant oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth creu baner.

Ewch i'r galeri i weld mwy o luniau o'r diwrnod.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Wythnos Gerdded i'r ysgolTrip i'r Fferm Gwningod

Cawsom hwyl er y glaw mawr yn y Fferm gwningod yn Llanystumdwy. Gwelodd y plant amrywiaeth o anifeiliaid a cafodd pawb gyfle i afael mewn cwningen, marchogaeth ceffyl a gwylio ffermwr prysur yn cneifio defaid. Profiad gwerthfawr iawn!

Cliciwch yma i weld lluniau o'r trip.

 

 

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Wythnos Gerdded i'r ysgolDysgu sgiliau criced

Daeth Mr ap John sef tad Caio ac Enfys i'r ysgol i ddysgu sgiliau Criced i ddisgyblion blwyddyn 2 a 3. Cafwyd bore difyr dros ben yn ei gwmni. Diolch iddo am ei amser.

Cliciwch yma am ychydig o luniau.

 

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Wythnos Gerdded i'r ysgol

Roedd hi'n 'wythnos gerdded i'r ysgol' yr wythnos hon (19eg - 23ain o Fai). Pwrpas yr wythnos yw hybu cerdded o safbwynt iechyd a gofalu am yr amgylchedd ymhlith teuluoedd a phobl ifanc. Bu i lawer o'r plant wneud ymdrech i gerdded i'r ysgol hyd yn oed yng nghanol y glaw trwm! Dyma lun o'r holl ddisgyblion a lwyddodd i gerdded i'r ysgol bob bore yn ystod yr wythnos. Llongyfarchiadau iddynt a diolch i'r rhieni am gefnogi!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

TIM GALA NOFIOGala nofio

Mynychodd chwech o ddigyblion Blwyddyn 2 a 3 y gala nofio yn y Ganolfan Hamdden Ddydd Gwener, 16eg o Fai i gynrychioli'r ysgol. Llongyfarchiadau i bob un ohonynt am gystadlu a rhoi o’u gorau. Dyma lun o'r tim.

 

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

2 enethClwb garddio

Diolch yn fawr i bawb o flwyddyn 2 a 3 a wnaeth aros ar ol ysgol i helpu yn y clwb garddio yn ystod mis Mai. Bu pawb wrthi'n brysur yn chwynu ac yn plannu llysiau a blodau er mwyn sicrhau fod ardal tu allan yr ysgol yn lliwgar ac yn daclus.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau o'r plant yn brysur yn y clwb garddio.

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

'Zoolab''Zoolab'

Daeth cwmni 'Zoolab' draw i ddosbarth blwyddyn Derbyn ac 1 yr wythnos hon. Cafodd y plant gyfarfod anifeiliaid difyr iawn o wahanol wledydd y Byd a dysgu gwybodaeth newydd am bob un. Roedd y plant yn ddewr iawn yn gafael ynddynt gan gynnwys neidr hir, neidr miltroed, crwban, malwoden afficanaidd enfawr a mwy!


Cliciwch yma i weld mwy o luniau o'r plant!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Y Gerdd FawrY Gerdd Fawr:

Mae plant Bl 2 a 3 yr ysgol wedi bod yn ysgrifennu pennill ar gyfer cystadleuaeth 'Y Gerdd Fawr' gyda Mrs Medwen Pari yr athrawes. Her y gystadleuaeth oedd ysgrifennu pennill 4 llinell am 'Fy Mro' ar gyfer bardd plant Cymru, Aneirin Karadog. Cafodd y bennill ei dewis ymhlith ysgolion eraill yng Nghymru. Llongyfarchiadau mawr iddynt.

 


Dyma hi y bennill :
'Hardd yw Porthdinllaen wrth y mor,
Tywod euraidd, o diolch Dduw,
Plant Morfa 'n canu yn un cor,
"O dyma le braf i ni gael byw!"

Bydd y plant yn ymddangos ar fideo ym Mhafiliwn Eisteddfod y Urdd y Bala, Dydd Mawrth , 27ain o Fai, 2014.

I weld y fideo - cliciwch yma

siarter

Siarter iaith - Dysgu Cymraeg i Rieni
Gwahoddwyd rhieni sy'n dysgu Cymraeg i ddod i'r ysgol unwaith eto y mis hwn. Daeth cynifer a 7 rhiant i'r ysgol. Bu iddynt gymeryd rhan yn canu wrth ymateb i gofrestr y bore cyn dysgu gemau buarth yn fanwl gyda'r plant. Dewisodd y plant ddwy gem sef 'Pont Llanaber' a 'clapio' i'w dysgu iddynt. Diolch unwaith eto iddynt am ymdrechu i ddysgu y Gymraeg a chanu cerddi y gemau buarth mor dda. Cliciwch yma i weld lluniau o hwyl y bore.

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

malc

 

Siarter iaith - Ymweliad Malcolm Allen
Fel rhan o 'Siarter iaith Gwynedd', mae pob ysgol yn nalgylch Botwnnog yn cael cyfleoedd i gyfarfod enwogion o Gymru sydd wedi gwneud eu marc mewn meysydd amrywiol. Daeth y peldroediwr enwog Malcolm Allen i'r ysgol i siarad gyda blwyddyn 2 a 3 am ddylanwad yr iaith Gymraeg ar ei yrfa. Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

ed


Siarter iaith - Ymweliad Ed Holden

Daeth Ed Holden i'r ysgol i ddysgu'r plant sut i rapio yn Gymraeg. Cafodd y plant llawer o hwyl yn creu synau amrywiol! Dewch i weld mwy o luniau.

 

 


------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

castell

 

 

Ymweliad blwyddyn 2 a 3 i Gastell Caernarfon
Fel rhan o thema y tymor, bu Blwyddyn 2 a 3 yn ymweld a chastell Cricieth. Cliciwch yma i weld yr holl luniau.


 

 



------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant mewn gwisg ffansi

Diwrnod y llyfr
Dyma’r disgyblion wedi gwisgo fel cymeriad o lyfr ar ‘ddiwrnod y llyfr’. Gwisgodd plant dosbarth blwyddyn Meithrin, derbyn ac 1 fel cymeriad o Wlad y Rwla a dewisodd plant blwyddyn 2 a 3 gymeriad o chwedlau cymreig. Roedd eu gwisgoedd yn werth eu gweld a diolch i’w rhieni am ymdrechu yn galed i’w gwisgo yn ddeiniadol. Ewch i’r galeri i weld mwy o luniau o’r hwyl a gwasom a lluniau o waith ysgrifenedig rhai o’r plant am eu cymeriad.

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

bachgen

 

 

Dydd Mawrth crempog
Bu’r plant wrthi yn brysur yn coginio crempogau blasus. Roedd gwaith pwyso yn ofalus a chymysgu y cynhwysion. Llwyddodd ambell un i daflu’r grempog i fyny a’i dal yn y badell. Ewch i’r galeri i weld mwy o luniau gan gynnwys rysait gan y plant.

 

 

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

dynesDydd Gŵyl Ddewi
Dyma lun o’r plant yn dathlu Dydd Gŵyl Ddewi yn yr ysgol. Daeth y plant i’r ysgol wedi gwisgo mewn dillad cymreig. Cafodd pawb stori am Dewi Sant a bu’r plant yn cymeryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i ddysgu amdano, gan gynnwys ysgrifennu ei stori, creu Cennin Pedr a chenhinnen yn yr ardal celf a chrefft a lliwio baner Cymru. I ddysgu mwy am Dewi Sant ewch i wefan HWB.
Cliciwch yma i weld mwy o luniau.

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

plant yn darllenSiarter Iaith
Gwahoddwyd rhieni i ddod i'r ysgol i ddysgu Cymraeg am un bore bob mis. Daeth cynifer a 5 rhiant i fwynhau bore o weithgareddau amrywiol: cyd ganu hwiangerddi syml gyda symudiadau, cymeryd rhan yng ngweithgareddau darllen yn nosbarth Miss Nia Ferris gan ddilyn patrymau brawddegol syml, rhannu ffrwythau yn siop ffrwythau boreol a chyd chwarae gemau buarth fel Pont Llanaber a Bwci Bo. Diolch iddynt am ymdrechu i ddysgu y Gymraeg ac edrychwn ymlaen i fwy o weithgareddau diddorol Dydd gwener 7fed o Fawrth, 2014.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

actorionPerfformiad gan ‘Gwmni’r Fran Wen’
Bu'r ysgol yn hynod o lwcus i gael ei dewis i fod yn rhan o weithdy cwmni Y Fran Wen i greu perfformiad o'r enw 'Y Cwpwrdd Dillad'. Cawsom weld y perffmormiad yng Nghanolfan Morfa. Roedd y perfformiad yn wych! Roedd pob plentyn yn mwynhau y digrifwch a'r teimladau amrywiol a redai drwy'r perfformiad! Braf oedd cael bod yn rhan o greu perfformiad o'r fath ac i'r plant weld eu syniadau ar waith gan actorion proffesiynol! Diolch am roi profiadau arbennig i blant Ysgol Morfa!

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

2 blentyn Diwrnod Santes Dwynwen
Cawsom llawer o hwyl yn dathlu diwrnod Santes Dwynwen ar y 25ain o Ionawr. Bu'r plant yn dysgu am stori Dwynwen a chanu can ‘Santes Dwynwen’ sydd wedi ei rhyddhau gan grwp ‘Y Cariadon’. Bu pawb wrthi'n brysur yn creu calonnau hardd i fynd adref. Ar ddiwedd y dydd cafwyd llond bol o hwyl yn chwarae ‘Sion a Sian’. Dyma lun o ennillwyr y gem gyda’i gwobr arbennig. Llongyfarchiadau! Cliciwch yma i gael clywed y gan ‘Santes Dwynwen’

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

2 blentynCerdded i'r ysgol
Daeth Paula Owen sef Swyddog Diogelwch y ffyrdd draw i'r ysgol gyda chapiau 'Camau Craff' bob un i'r plant. Mae'r capiau yn felyn a mae striped arian sydd yn adlewyrchu golau arnynt. Bydd pob plentyn yn gwisgo'r capiau i gerdded i'r ysgol yn y bore ac i gerdded adref yn y prynhawn. Bydd y capiau yn sicrhau fod pob plentyn yn cael eu gweld yn glir ar y ffordd ac yn eu cadw'n ddiogel. Dyma luniau o’r plant yn eu capiau newydd!

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

cowbois rhos botwnnog

Cowbois Rhos Botwnnog
Bu Cowbois Rhos Botwnnog yn yr ysgol yn canu caneuon oddi ar CD 'Codi angor'. Bu i bawb fwynhau yn arw yn gwrando, cyd-ganu a dawnsio i ganeuon J Glyn Davies. Ewch i'r galeri i weld mwy o luniau.

 

 

 

 

 

Bocsys Nadolig y PlantTrip Nadoligaidd
Cawsom drip Nadoligaidd arbennig Dydd Llun, yr 2il o Dachwedd. Bu i'r plant fwynhau cael mynd ar y tren bach o dan y Ddaear i weld Sion Corn yn Llechwedd. Cafodd pawb gyfle i weld yr amgueddfa lechi diddorol oedd yno. Yn y prynhawn buom yn gwylio Panto 'Cawr y Gilfach' yng Nghricieth. Diwrnod i'w gofio! Ewch i'r galeri i weld mwy o luniau o'r trip.

 

 

 

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Bocsys Nadolig y PlantBocsys Nadolig y Plant
Bore Iau y 21ain o Dachwedd, bu i 25 o 'Focsys Nadolig y Plant' gychwyn ar eu taith o Ysgol Morfa Nefyn. Mae'r bocsys yn cael eu cludo yr holl ffordd o Gymru i Beralus er mwyn sicrhau fod bob plentyn yn y Byd yn cael Nadolig Llawen! Diolch i'r disgyblion a ddaeth a bocs i'r ysgol.

 

 

 

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

sialens darllen Sialens darllen yr Haf
Llongyfarchiadau i bob plentyn a lwyddodd i gwblhau sialens darllen yr Haf, ‘Plas Braw’ eleni. Maent wedi bod yn brysur iawn yn darllen llyfrau amrywiol yn ystod y gwyliau Haf. Da iawn chi!

 

 

 

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Dylan Owen o AwstraliaDylan Owen o Awstralia
Daeth Dylan Owen, brawd Miss Elen Owen (cymhorthydd Cyfnod Sylfaen) i’r ysgol i gyfarfod y plant. Mae Dylan yn byw yn Cairns yn Awstralia ers 16 mlynedd bellach ac roedd ef, ei wraig a’i blant yng Nghymru ar eu gwyliau. Heddwas yw Dylan yn Awstralia a dysgodd y plant wybodaeth newydd am ei waith a phroblemau delio gyda crocodeilod!!!! Bu i bawb fwynhau yn arw a dysgu llawer yn cynnwys staff yr ysgol.

 

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------


Llysgenhadon EfyddLlysgenhadon Efydd
Llongyfarchiadau i Cai Wyn Morgan a Hana Williams o flwyddyn 3 am gael eu dewis i fod yn ‘Llysgenhadon Efydd’ yr ysgol. Mynychodd y ddau ohonynt ddiwrnod o hyfforddiant yng Nghaernarfon Dydd Iau, y 3ydd o Hydref. Mae eu cyfrifoldebau yn cynnwys helpu mewn gweithgareddau amrywiol Addysg Gorfforol sydd yn digwydd yn yr ysgol yn cynnwys y diwrnod mabolgampau blynyddol.